Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch i'r Aelod am ei ddau gwestiwn pwysig. Ar yr ail bwynt, byddaf yn ysgrifennu ati'n benodol ynglŷn â hynny, os caf. Ar y pwynt cyntaf, mae'r rhaglen adnewyddu a diwygio a nodais yn awr wedi'i phwysoli'n benodol i adlewyrchu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion, felly mae'r cyllid sy'n dilyn hynny a'r dyraniad i ysgolion yn adlewyrchu hynny'n benodol a dylai fod ar gael i wneud darpariaeth benodol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwy'n cydnabod yr heriau a ddisgrifia i'r etholwr a ysgrifennodd ati. Dyna un o'r rhesymau pam y dyrennir yr arian yn y ffordd honno.