Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn, gan ei fod yn bwysig tu hwnt ac mae hyn yn digwydd heddiw, yn awr, i deuluoedd. Fel y dywedodd y Gweinidog, dyma'r toriad mwyaf i fudd-daliadau ers 1945—un o'r rhai mwyaf erioed, a dweud y gwir. Ar ôl mwy na 10 mlynedd o doriadau Torïaidd—[Torri ar draws.] Newydd ddechrau ydw i. Ac ni chewch wneud ymyriad beth bynnag.