Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn pwysig. Mae gennym £25 miliwn wedi'i ddyrannu—fel y dywedais, swm gwarthus—i Gymru. Yr hyn y ceisiais ei wneud—. Cyn gynted ag y clywsom am y dyraniad hwnnw, rwyf wedi gofyn i bawb yn Llywodraeth Cymru, 'Beth ydyw?' Mae'n swm untro o arian; nid yw'n rheolaidd. Mae'n swm untro o arian, sef yr anoddaf i'w wario mewn modd cynaliadwy. Felly, mae pob Gweinidog yn ymateb o ran sut y credant y gallwn ddefnyddio'r cyllid hwnnw yn y ffordd fwyaf effeithiol, ac wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd eich pwyntiau heddiw'n werthfawr iawn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd.