4. Datganiadau 90 eiliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:20, 6 Hydref 2021

Bythefnos yn ôl, daeth y newyddion trist am farw'r gyflwynwraig a'r cynhyrchydd radio Magi Dodd yn 44 mlwydd oed. Ganed a magwyd Magi ym Mhontypridd, lle bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton ac Ysgol Rhydfelen, cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ddechrau'r ganrif hon, daeth yn llais cyfarwydd ar donfeddi Radio Cymru—ar raglenni C2 ac fel cyflwynydd Dodd Com—ac yn fwy diweddar bu'n cynhyrchu rhaglenni ac yn cyflwyno Cwis Pop ar Radio Cymru. Mae llu o bobl wedi talu teyrnged iddi, gyda phawb yn nodi ei hangerdd am Bontypridd ac am y sin roc Gymraeg, tra hefyd yn pwysleisio ei charedigrwydd a'i phersonoliaeth afieithus. Fe ysgogodd hi genhedlaeth a mwy o bobl i rannu ei chariad at gerddoriaeth Gymraeg, gan ddenu cynulleidfaoedd newydd i'r orsaf. Prin oedd y cyflwynwyr o’r Cymoedd ar Radio Cymru bryd hynny, ac fel y dywedodd Huw Meredydd Roberts:

'Fe ddaeth hi'n un o gyflwynwyr pwysicaf yr orsaf yn fy marn i—yn llais i genhedlaeth o bobl ifanc o gymoedd y de ar ein gwasanaeth cenedlaethol.'

Bûm i weld mam Magi wythnos diwethaf, a dywedodd wrthyf am y caredigrwydd a'r cariad maent wedi ei dderbyn fel teulu gan bobl Pontypridd a thu hwnt, a'i fod fel petai fod pawb ym Mhontypridd wedi nabod Magi. Dwi ddim yn amau bod hyn yn wir. Bydd Pontypridd a Chymru yn lle tlotach hebddi, a hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i'w phartner, Aled, ei theulu, ei chydweithwyr a'i ffrindiau heddiw. Gorffwys mewn hedd, Magi.