Part of QNR – Senedd Cymru ar 6 Hydref 2021.
Mae’n rhy gynnar i ddweud beth fydd effaith tymor hir COVID-19 ar ddysgwyr, ond rŷn ni’n gweld arwyddion cadarnhaol bod dysgwyr yn adfer eu sgiliau iaith Cymraeg wedi dychwelyd i’r ysgol. Dwi am ddiolch i’n addysgwyr ar draws Cymru am eu gofal a’u hymroddiad i’w dysgwyr ar ôl cyfnod anodd iawn.