Cefnogi Pobl sy'n Agored i Niwed

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 12 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:31, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae aelwydydd o dan bwysau ariannol digynsail o ganlyniad i'r pandemig, ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, costau byw cynyddol a thoriadau niweidiol i daliadau lles a gefnogwyd gan Lywodraeth y DU. Rydym ni'n mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a all arwain at dlodi wrth helpu pobl i sicrhau'r incwm mwyaf a datblygu cadernid ariannol.