Cefnogi Pobl sy'n Agored i Niwed

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 12 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour 1:36, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rwyf i wedi bod yn holi trigolion am eu profiadau o gysylltu â gofal sylfaenol. Mae'r adborth wedi amrywio o 'dda iawn' i bobl a oedd yn teimlo eu bod nhw wedi aros yn rhy hir. Rwy'n pryderu y gallai hyn effeithio ar bobl agored i niwed yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf. Felly, sut gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod gan ein meddygfeydd teulu y dechnoleg orau fel y gall pobl wneud apwyntiadau a chael gwasanaeth cyson ledled Pen-y-bont ar Ogwr?