Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 12 Hydref 2021.
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Fel y byddwch chi'n deall, nid wyf i byth mewn sefyllfa i wneud sylwadau am gyfarfodydd unigol rhwng clinigwyr a'u cleifion. Rwy'n credu bod dau bwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn eu gwneud yr hoffwn i roi sylw iddyn nhw. Mae hi'n iawn bod gwasanaethau diagnostig o dan bwysau aruthrol. Roeddem ni'n poeni ar lawr y Senedd yn ystod y pandemig am yr oedi cyn i bobl ddod ymlaen i roi gwybod i glinigwyr am eu cyflyrau. Diolch byth, rydym ni wedi cael rhywfaint o effaith ar hynny ac mae mwy o bobl yn dod yn eu blaenau, ond, wrth gwrs, pan fyddan nhw'n dod yn eu blaenau yn y niferoedd hynny, mae'n anochel ei fod yn rhoi systemau diagnostig dan bwysau. Bydd hi'n gwybod bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cymeradwyo achos busnes yn ddiweddar i dreialu tair canolfan diagnosis cyflym—un ym mhob un o'i dri phrif ysbyty—a'u bod nhw wrthi bellach yn recriwtio'r nyrsys arbenigol a'r amser radioleg y bydd ei angen arnyn nhw i agor y canolfannau diagnostig hynny yn gynnar, fel y maen nhw'n ei obeithio, yn y flwyddyn newydd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny yn gwneud gwahaniaeth i rai o'r unigolion y mae Janet Finch-Saunders wedi sôn amdanyn nhw y prynhawn yma.
O ran sut y mae clinigwyr yn cyfathrebu eu diagnosis â phobl, nid wyf i'n credu ei bod hi'n bosibl, yn Siambr y Senedd, wneud rheolau cyffredinol ynghylch y ffordd orau o wneud hynny. Mae angen ei wneud mewn modd sensitif, wrth gwrs, ac mae angen ei wneud gyda budd pennaf y claf yn ganolog iddo. A bydd rhai cleifion, oni fydd, y mae'n well iddyn nhw gael sgwrs gyda'u clinigydd pan fyddan nhw yn eu cartrefi eu hunain, yn hytrach na gofyn iddyn nhw, yn sâl fel y maen nhw, i wneud teithiau anghyfleus i fannau eithaf pell i ffwrdd lle mae llawer o bobl sâl iawn eraill, i gael gwybod yr hyn y gall y clinigydd ei ddweud wrthyn nhw mewn sgwrs yn eu cartrefi eu hunain. Nawr, ni fydd hynny yn addas i bawb, rwy'n deall hynny yn llwyr, ond nid wyf i chwaith yn credu ei bod hi'n iawn dweud, mae'n debyg, y bydd yn well gan bawb wneud y daith honno i aros i weld rhywun i gael gwybod yr hyn y gallen nhw fod wedi cael ei wybod o dan amgylchiadau eraill. Mater i'r clinigydd, ar y cyd â'r claf, yw penderfynu ar y ffordd orau o wneud hynny. Ac mae'n rhaid i ni gael rhywfaint o ffydd yn ein clinigwyr eu bod nhw'n mynd ati i wneud hynny—maen nhw yn y busnes o drin pobl â chanser, wedi'r cyfan, dyna'r hyn y maen nhw wedi ymroi eu bywydau proffesiynol i'w wneud, a'u bod nhw'n gwneud hynny gan ystyried y sensitifrwydd hwnnw.