Y Grid Ynni yn y Dyfodol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 12 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:13, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae angen cynllun hirdymor integredig ar gyfer y rhwydweithiau nwy a thrydan ar Gymru. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau o ran y newid yn yr hinsawdd. Cyhoeddwyd y tendr am bartner annibynnol i arwain y gwaith hwn ar 29 Medi, a disgwylir i gontractwr gael ei benodi ym mis Tachwedd.