Part of the debate – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 12 Hydref 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mi wnaf i, os caf i, anfon fy nymuniadau gorau i Andrew R.T. Davies. Dwi eisiau gyrru dymuniadau gorau i bawb, wrth gwrs, sydd yn wynebu heriau tebyg lle bynnag y bôn nhw. Wrth gwrs, y gwir amdani ydy ein bod ni mewn sefyllfa freintiedig i allu gwneud llawer mwy na dymuno'n dda i bobl mewn geiriau. Mae Llywodraeth yn gallu gweithredu, rydym ni i gyd yn gallu dal y Llywodraeth i gyfrif, a bod yn benderfynol i beidio â bodloni tan ein bod ni'n gwybod bod gennym ni'r gwasanaethau yn eu lle y mae pobl Cymru eu hangen. Achos rydym ni yn wynebu argyfwng. Ac efallai mai'r peth sydd fwyaf rhwystredig ydy arafwch y cynnydd, er gwaethaf mor amlwg ydy'r argyfwng hwnnw. Lleiafrif sydd yn cael triniaeth o gwbl am iechyd meddwl, ac o'r rheini sydd yn cael triniaeth, mae llawer, wrth gwrs, yn gorfod aros yn rhy hir.
Dwi yn croesawu, yn sicr, y ffaith bod adroddiad wedi cael ei gomisiynu gan y Dirprwy Weinidog i ddysgu mwy am lle mae'r cynnydd yn digwydd, lle dydy'r cynnydd ddim yn ddigwydd. Mi wnaf innau ychwanegu cwestiwn yn gofyn am eglurder, ychydig bach mwy, am y gwaith hwnnw. Pwy fydd yn gwneud hwnnw? Mae'n bwysig, dwi'n meddwl, gwybod bod yna olwg annibynnol yn mynd i fod yn cael ei gymryd ar hyn. Mi ddywedodd y Dirprwy Weinidog yn ei hateb eiliad yn ôl y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn—dwi'n meddwl mis Medi y flwyddyn nesaf ddywedoch chi. Fydd yr adrodd yn ôl yn digwydd erbyn mis Medi, ynteu gorffen y gwaith casglu fydd yn digwydd erbyn hynny? Achos eisiau annog pethau i symud ymlaen mor gyflym â phosibl ydw i. A hefyd, oherwydd y broblem rydym ni'n gwybod sydd gennym ni efo gwasanaethau gofal iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, allaf i gael sicrwydd y bydd yr asesiad yn cynnwys beth sy'n digwydd o ran cynnydd ym maes cefnogaeth i blant a phobl ifanc, yn benodol?
Rydym ni wedi cael rhestr gan y Dirprwy Weinidog heddiw o wahanol ffyrdd, yn cynnwys ambell i fenter newydd, mae pobl yn gallu cael mynediad at gefnogaeth. Dydy'r rheini ddim yn gweithio i bobl os dydyn nhw ddim yn gwybod amdanyn nhw, wrth gwrs, a dwi'n meddwl bod yna lawer o bobl sydd yn teimlo nad ydyn nhw'n gwybod lle i fynd i chwilio am gefnogaeth. Felly, tybed all y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni pa waith sydd yn cael ei wneud i sicrhau bod yna gryfhau yn digwydd ar y signposting yna, sydd mor hanfodol er mwyn i bobl sydd â problem fechan, o bosib, rŵan, gael yr help amserol sydd ei angen arnyn nhw er mwyn atal, gobeithio, hynny rhag troi yn broblem fwy dwys a allai olygu angen triniaeth seiciatrig uwch.
Yn olaf, dwi'n troi at ddata a thryloywder. Mae Mind Cymru wedi codi pryderon dros y blynyddoedd, mae'n rhaid dweud, ynglŷn â'r broses o gasglu'r data sydd ei angen i fesur cynnydd yn strategaeth y Llywodraeth, achos dydy'r set ddata graidd iechyd meddwl rydyn ni wedi bod yn ei ddisgwyl yn hir iawn amdani yn dal ddim yn weithredol. A dwi'n dweud ein bod ni'n disgwyl yn hir—dwi'n meddwl fy mod i'n iawn i ddweud bod y set ddata i fod yn barod yn wreiddiol erbyn mis Rhagfyr 2014. Wnaeth yr amserlen honno ddim cael ei chyrraedd. Mae wedi llithro eto, a dwi'n meddwl mai'r dyddiad sydd gennym ni bellach ydy y bydd o'n weithredol erbyn 2022. Felly, pa bryd? Dechrau 2022? Rydyn ni'n cael sicrwydd bod hyn yn mynd i gael ei weithredu y flwyddyn nesaf. Ydy'r Gweinidog yn derbyn mewn difrif nad oes posib mesur llwyddiant na chynnydd ar y strategaeth heb fod y mesuryddion a'r data craidd yn eu lle gennym ni?