Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 12 Hydref 2021.
Diolch, Ken. A diolch hefyd am y gwaith yr ydych chi'n ei wneud wrth gadeirio'r grŵp trawsbleidiol, yr wyf i'n ei werthfawrogi yn fawr iawn hefyd. Fel y gwnaethoch chi dynnu sylw ato, mae'r ffaith bod y gwaith o ran iechyd meddwl yn digwydd ar draws y Llywodraeth yn gwbl hanfodol, ac mae llawer iawn o waith yn digwydd ar draws y Llywodraeth yn y maes hwn. Rwy'n gweithio yn agos gyda'r Gweinidog Addysg i ddarparu'r dull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl plant ac rwy'n teimlo ein bod ni'n gweld cynnydd da yn y maes hwn ac fe fyddwn ni'n clywed mwy am hynny cyn bo hir.
Mae gennym ni nifer o brosiectau cyflogaeth hefyd a gynlluniwyd i gefnogi pobl sydd mewn perygl o adael cyflogaeth oherwydd bod ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl, ac mae gennym ni raglen cymorth cymheiriaid hefyd a gynlluniwyd i sicrhau bod rhai o'r bobl sydd bellaf o'r gweithle yn gallu dychwelyd i gyflogaeth. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n gorffwys yn y fan honno, ac rwy'n falch iawn o ddweud fy mod i wedi cael trafodaethau cadarnhaol iawn gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth am yr angen i gydweithio ynglŷn ag iechyd meddwl. Rwy'n gweld iechyd meddwl yn fusnes i bawb yn y Llywodraeth. Rydym ni'n mabwysiadu dull gwahanol o ymdrin â'r gyllideb eleni, ac y byddwn ni'n cael trafodaethau thematig ac mae un o'r rhain wedi bod yn ymwneud â'r angen i ddiogelu cyllid ym maes iechyd meddwl a sicrhau nad yw penderfyniadau a wneir mewn adrannau eraill yn achosi anfantais i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n gwneud cynnydd da. Roeddwn i'n cyfeirio hefyd at y materion o ran tai, ond mae llawer mwy y gallwn ni ei wneud ac rwyf i o'r farn ein bod ni'n eiddgar i gyd i wynebu'r her honno.
A dim ond dweud—fe ddylwn i fod wedi dweud mewn ymateb i Rhun hefyd—ein bod ni'n cynyddu ein gweithgarwch ni i hybu'r cymorth haen 0 sydd ar gael. Mae'r llinell gymorth C.A.L.L. a SilverCloud ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn llawer mwy i'r amlwg. Fe wn i fod fy rhagflaenydd i, Eluned Morgan, wedi gofyn i fyrddau iechyd sicrhau eu bod nhw'n llawer mwy amlwg o ran hysbysebu sut y gall pawb gael gafael ar eu gwasanaethau nhw. Ond, wrth gwrs, mae mwy y gallwn ni ei wneud bob amser. Ond rwyf i'n canolbwyntio ar geisio gwella ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael ac mae llawer o gefnogaeth ar gael yno, yn enwedig ar yr haen 0 honno, yr ydym ni wedi buddsoddi llawer iawn ynddi hi.