Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 12 Hydref 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae cefnogi lles emosiynol a meddyliol dysgwyr yn hanfodol os ydyn ni eisiau helpu pob person ifanc i gyflawni ei botensial.
Rydyn ni yma yng Nghymru yn gweithredu'n gyflym. Eleni yn unig rydym wedi darparu lefelau cyllid uwch nag erioed i gefnogi dysgwyr. O ganlyniad, mae 24,000 yn rhagor o sesiynau cwnsela wedi helpu 6,000 yn rhagor o blant a phobl ifanc. Rydyn ni wedi darparu cyllid i gyflwyno trefniadau lles cyffredinol a threfniadau sydd wedi'u targedu i bron 30,000 o blant a phobl ifanc. Rydym wedi helpu hyfforddi dros 4,000 o staff ysgolion, ac rydym wrthi yn cyflwyno ein cynlluniau peilot mewn ysgolion ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i blant a'r glasoed yn genedlaethol, gyda mwy na 100 o ymarferwyr iechyd meddwl cyfwerth ag amser llawn yn cynnig cefnogaeth yn uniongyrchol mewn ysgolion.
Ond mae mwy eto i'w wneud. Mae cefnogi ysgolion i ddatblygu dull o fynd i'r afael â chwestiwn iechyd meddwl a lles ar lefel ysgol gyfan yn allweddol i'n strategaeth. Dyna sut y bydd modd gwneud y newidiadau sylfaenol y mae pob un ohonom ni am eu gweld ar draws ein system addysg. Cyhoeddwyd y fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ym mis Mawrth, ac rydym wedi ei wneud yn ganllaw statudol.