6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 12 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:30, 12 Hydref 2021

Diolch, Dirprwy Lywydd. Weinidog, dwi’n meddwl eich bod chi a’r Llywodraeth yn bod braidd yn annheg yn dweud nad oedd neb yn gwybod beth oedd yn mynd i ddod dechrau’r flwyddyn ddiwethaf a'i fod o'n hawdd gwneud penderfyniadau ag edrych yn ôl—hindsight, fel roedd y Prif Weinidog wedi sôn heddiw. Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd wedi gweld y lluniau'n dod o'r Eidal ar ddechrau'r flwyddyn, ac, yn wir, o Tsieina, ac roedd pawb efo syniad reit dda beth oedd o'n blaenau ni. Ond, yn fwy na hynny, diolch i'r Dr Moosa Qureshi, rydyn ni’n gwybod bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi cynnal ymarferiad trylwyr i baratoi am bandemig coronafeirws, a hynny bum mlynedd yn ôl, o’r enw Exercise Alice. Mae’n debyg bod yr ymarferiad yma wedi ein rhybuddio ni o'r angen am stociau PPE a’r angen am system olrhain cysylltiadau drylwyr, ymhlith nifer o bethau eraill. Ac os ydy’r adroddiad yn y Guardian i’w gredu, roedd Llywodraeth Cymru yn dystion i’r ymarferiad yma ac wedi derbyn yr argymhellion. Pam na wnaeth y Llywodraeth weithredu ar yr argymhellion, Weinidog?