Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 12 Hydref 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i drafod adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2020-21 heddiw. Ac mae cyhoeddi adroddiad blynyddol yr Athro Sally Holland yn gyfle pwysig i ni ganolbwyntio ar hawliau plant ar y cyd. Mae'n amser pwyso a mesur cynnydd ac ystyried galwadau'r comisiynydd i ni wneud mwy. Ac ni fu erioed blwyddyn arall fel y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig i blant a phobl ifanc. Mae effaith y pandemig yn parhau i effeithio ar eu bywydau a bywydau eu teuluoedd. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r comisiynydd plant am ei rhan annibynnol mewn hyrwyddo hawliau plant yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae'r comisiynydd a'i thîm wedi blaenoriaethu anghenion pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn gyson, gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a bod eu hawliau'n cael eu parchu. Mae hyn wedi bod yn amlwg yn yr ymgysylltu y mae'r comisiynydd plant wedi ei wneud gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig. Mae'r comisiynydd wedi parhau i ganolbwyntio'n ddi-baid ar blant a phobl ifanc yn ystod yr argyfwng hwn, ac mae hi wedi gweithio'n adeiladol gyda Gweinidogion a swyddogion drwy gydol y cyfan. Ac mae hyn wedi ein galluogi ni i weithio trwy faterion anodd, gan sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried a bod eu hawliau'n cael eu diogelu. A hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r comisiynydd plant a'i thîm am eu gwaith ar arolygon 'Coronafeirws a Fi' ymhlith plant a phobl ifanc.
Arweiniodd y comisiynydd, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y Senedd Ieuenctid a Phlant yng Nghymru, brosiect i glywed yn uniongyrchol sut roedd y pandemig yn effeithio ar agweddau iechyd, addysg a chymdeithasol ar fywydau pobl ifanc. Daeth bron i 44,000 o ymatebion i law ym mis Mai 2020 a mis Ionawr 2021, gan sicrhau bod lleisiau plant wedi eu clywed yn ystod y pandemig. Defnyddiodd y comisiynydd yr arolygon fel cyfle i wrando ar farn plant o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phlant anabl. Amlygodd canfyddiadau'r arolwg sawl maes lle nad oedd cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig arfer eu hawliau yn gyfartal a'u cyfoedion gwyn yng Nghymru neu Brydain, ac roedd hyn yn cynnwys eu gallu i wneud ymarfer corff a chwarae, cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ansicrwydd bwyd, a phryderon ynghylch goblygiadau ar eu dysgu. Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos i ni'r rhan y mae hiliaeth, gwahaniaethu ac anfantais yn ei chwarae ym mhrofiadau'r bobl ifanc hyn, ac yn rhoi pwyslais i ni ar yr angen i ni gymryd camau yn y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Cafodd canlyniadau'r holl arolygon eu defnyddio gan bob rhan o'r Llywodraeth, gan gynnwys pan oedd angen gwneud dewisiadau anodd ynghylch cyfyngiadau ar fywydau pob dydd plant.
Hoffwn i ddiolch hefyd i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol am ei gwaith helaeth gyda'r comisiynydd plant. Mae'r Dirprwy Weinidog yn cyfarfod yn rheolaidd â'r comisiynydd, a'r Prif Weinidog ac aelodau eraill o'r Cabinet yn yr un modd, ac mae'r ymgysylltu parhaus hwn wedi ein helpu ni i barhau i ganolbwyntio'n glir ar hawliau plant a phobl ifanc yn ein gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig.
Cyhoeddodd y comisiynydd ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2020-21 yr wythnos diwethaf gyda nifer o alwadau i weithredu, gan gynnwys mewn cysylltiad ag iechyd meddwl, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni ddefnyddio ein hamser ni heddiw i archwilio'r meysydd hynny lle mae'r comisiynydd wedi galw arnom ni i wneud mwy yn ein gwaith. Mae'r adroddiad yn amlinellu cyflawniadau ei swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a'u gweithgarwch parhaus i ymateb i'r pandemig, ac mae hyn yn cynnwys ei hadolygiad ffurfiol cyntaf o'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau. Defnyddiodd ei phwerau ffurfiol mewn cysylltiad ag addysg ddewisol yn y cartref a diogelu mewn ysgolion annibynnol. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'w hadolygiad ym mis Mawrth eleni.
Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn cynnwys 18 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys argymhellion sy'n ymwneud â phlant â phrofiad o ofal, addysg, iechyd plant, y glasbrint cyfiawnder ieuenctid a'r strategaeth gofalwyr di-dâl. A bydd y ddadl hon heddiw yn rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd fynegi eu barn ar adroddiad y comisiynydd a rhoi sylwadau ar y meysydd y mae'r comisiynydd wedi eu codi. Hoffwn i groesawu ehangder a dyfnder yr argymhellion. Fodd bynnag, ni fyddaf i'n trafod manylion ein hymateb iddyn nhw heddiw. Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad blynyddol y comisiynydd erbyn 30 Tachwedd.
Cyn i'r Aelodau drafod yr adroddiad hwn, mae'n bwysig nodi bod pandemig y coronafeirws yn parhau i effeithio ar rai o'r argymhellion y mae'r comisiynydd wedi eu cyflwyno, ac mae rhai meysydd lle nad ydym ni wedi gweld y cynnydd y byddem ni wedi ei ddymuno oherwydd yr angen i oedi neu ailflaenoriaethu llwythi gwaith. Er gwaethaf hyn, mae ein bwriadau yn parhau i fod yn benderfynol. Rydym ni'n falch o'n hanes yng Nghymru, gyda Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn parhau i fod yn sail i'n polisi ar gyfer plant. Mae'n ganolog i'n dull gweithredu i wella canlyniadau plant, drwy eu helpu a'u cefnogi i gyflawni eu potensial llawn.
Dirprwy Lywydd, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod bod cyfnod yr Athro Sally Holland fel comisiynydd yn dod i ben ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, felly hwn fydd ei hadroddiad blynyddol olaf. Hoffwn i felly ddiolch i'r comisiynydd am bopeth y mae hi wedi ei wneud i gynorthwyo plant a phobl ifanc drwy gydol ei chyfnod o saith mlynedd yn y swydd. Mae hi wedi bod yn eiriolwr diflino ar ran plant a phobl ifanc ac yn hyrwyddwr eu hawliau a'u lles. Ar hyn o bryd rydym ni'n mynd drwy'r broses i benodi olynydd Sally ar sail drawsbleidiol, a nod y Prif Weinidog fydd gwneud cyhoeddiad yn y flwyddyn newydd.
I gloi, rwy'n edrych ymlaen at y ddadl bwysig hon, wrth i ni ganolbwyntio ar adroddiad annibynnol y comisiynydd plant a'n cynnydd o ran cefnogi hawliau plant ledled Cymru. Mae rôl annibynnol y comisiynydd yn hanfodol, a byddwn ni'n parhau i weithio gyda'i swyddfa er budd pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Diolch.