Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 12 Hydref 2021.
Diolch am y cyfle i drafod yr adroddiad yma. Hoffwn i ganolbwyntio ar agweddau penodol o'r adroddiad, rhai sydd angen sylw buan a rhai sydd heb gael sylw hyd yma y prynhawn yma. A hoffwn i gymryd y cyfle i holi'r Gweinidog am ei sylwadau, gan dderbyn, wrth gwrs, nad ydy'r ymateb llawn swyddogol ar gael eto.
Trof yn gyntaf at blant sy'n cael eu hatal neu eu diarddel o'r ysgol. Sut yn y byd ei bod hi'n bosib fod angen diarddel plentyn tair oed, plentyn pump oed a phlentyn saith oed o'r ysgol? Sut bod angen diarddel 768 o blant tair i saith oed dros gyfnod o flwyddyn? Mae'r ffigurau yma gan y comisiynydd plant yn frawychus, ac mae'n amlwg nad yr un broses o ddiarddel a ddylai fod ar waith ar gyfer plant ifanc o'i chymharu â'r broses ar gyfer pobl ifanc hyd at 16 oed—er bod angen codi cwestiynau am y broses efo plant hŷn hefyd, gyda llaw. Ond, o ran y plant ieuengaf, mae'r comisiynydd wedi canfod bod un plentyn wedi cael ei ddiarddel 18 o weithiau mewn blwyddyn. Nid sôn am ystadegyn ydyn ni yn y fan yma, ond sôn am blentyn, ac mae'n hollol amlwg dydy diarddel plentyn dro ar ôl tro ddim yn mynd at wraidd y broblem nac yn ymateb i'w anghenion. Mae'r plant yma angen eu cefnogi, nid eu troi ymaith, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth roi polisi ar waith i atal diarddel plant dan wyth oed, ac mae angen adolygu'r canllawiau diarddel ar gyfer plant hŷn hefyd. Hoffwn i glywed y prynhawn yma fod hyn yn gonsýrn a bod yna waith ar droed i newid y sefyllfa.
Maes arall sy'n peri pryder yn sgil adroddiad blynyddol y comisiynydd plant ydy diwygio gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Mae'r comisiynydd yn dweud yn glir iawn na fu digon o gynnydd. Ac yn allweddol, araf iawn a fu'r cynnydd tuag at y glasbrint cyfiawnder ieuenctid. Yn ystod y pandemig, fe dynnodd y comisiynydd sylw at blant a oedd yn cael eu cadw yn y ddalfa ac oedd yn colli eu hawliau. Felly, a gawn ni wybod beth ydy'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r glasbrint yn llawn ac, yn y cyfamser, faint o bryder ydy hi i'r Gweinidog nad oes yna bwyslais ar ddulliau amgen yn hytrach nag anfon plant i'r ddalfa? Does yna ddim digon o gyfleon ar gyfer gwasanaethau adferol. Fe dynnodd y comisiynydd sylw hefyd at y broblem o blant o Gymru yn cael eu gosod yn y ddalfa yn Lloegr a byddai'n dda clywed pa gynnydd sydd wedi ei wneud efo'r broblem benodol yna.
Troi at faes arall, sef cofrestru staff mewn ysgolion annibynnol efo Cyngor y Gweithlu Addysg, neu yn wir y diffyg cynnydd tuag at orfodi hyn er mwyn diogelu disgyblion, yn enwedig i ddiogelu merched rhag aflonyddu rhywiol. Mae'n fater o gonsýrn i'r comisiynydd ers tro, ac rwy'n rhannu'r consýrn. Mae Plaid Cymru wedi bod yn rhannu’r consýrn yma bod y Llywodraeth mor araf yn datrys y problemau cofrestru, felly byddai’n dda gwybod bod y Llywodraeth o’r diwedd yn mynd i weithredu deuddegfed argymhelliad adroddiad blynyddol y comisiynydd plant, a hynny er mwyn diogelu disgyblion ysgol yng Nghymru.
A dwi'n troi yn olaf at fater arall o bryder, sef plant sydd yn cael eu dysgu gartref. Mae'r comisiynydd wedi dadlau nad ydy'r ddeddfwriaeth eilradd y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei chyflwyno ar addysg gartref ddewisol, nad ydy'r ddeddfwriaeth eilradd yma'n ddigonol, a dydy o ddim ychwaith yn mynd yn ddigon pell o safbwynt diogelu hawliau plant. Hoffwn i wybod beth ydy'r rhesymeg y tu ôl i beidio â dilyn cyngor y comisiynydd i ddod â deddfwriaeth gynradd ymlaen ar y pwnc yma. Dwi'n gwybod bod yna brinder amser o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol, ond tybed oes yna resymau eraill dros fod mor amharod i weithredu'n gadarn yn y maes yma. Felly, hoffwn i glywed sylwadau'r Gweinidog ar y meysydd yma os gwelwch chi'n dda. A gaf i ddiolch yn fawr iawn i'r comisiynydd am ei gwaith diflino, yn dal ati i bwyso am y newidiadau sydd eu hangen? Y tristwch ydy ein bod ni'n dal wrthi yn eu trafod nhw, a'n bod ni'n dal angen gweld gweithredu.