Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:45, 13 Hydref 2021

Nawr te, Weinidog, i ni gael trafod rhai o'r materion sydd wir yn mynd â bryd pobl Cymru—mae yna heriau eithriadol, wrth gwrs, yn wynebu nifer o fusnesau ar hyn o bryd yng Nghymru, sy'n gorfod dygymod â chynnydd sylweddol ym mhris ynni. Mae hynny'n effeithio yn arbennig ar fusnesau sydd yn ddefnyddwyr ynni dwys. Dŷn ni'n ymwybodol o drafodaethau sy'n digwydd rhwng adrannau ar lefel Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Gallwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau sy'n digwydd oddi fewn i Lywodraeth Cymru, gyda chi fel Gweinidog cyllid, i edrych ar y posibilrwydd o gynnig cymorth ychwanegol i'r busnesau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan hyn?