Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 13 Hydref 2021.
Wel, diolch am hynny. Dŷch chi wedi gwneud y pwynt i fi, dwi'n meddwl, drwy ddweud bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig bwerau sydd ddim gennym ni yn y fan hyn i ymateb i hyn. Ac wrth gwrs, unwaith eto, mae amgylchiadau eithriadol fel rŷn ni'n eu hwynebu ar hyn o bryd yn dangos cyn lleied o bwerau a dylanwad macroeconomaidd sydd gennym ni fan hyn yng Nghymru i fedru ymateb i wahanol argyfyngau. Mi welsom ni hefyd elfennau o hynny, wrth gwrs, yn ymwneud â'r pandemig; mi wnaeth yr Institute for Fiscal Studies ddadlau bod llywodraethau datganoledig wedi cael eu dal yn ôl yn eu hymateb cyllidol i'r pandemig—gan gronfeydd wrth gefn annigonol, gan bwerau benthyg cyfyngedig, ac yn y blaen. Nawr, roedd eich dadl chi fel Llywodraeth yr wythnos diwethaf hefyd, wrth gwrs, yn mynd â ni i'r un cyfeiriad, o safbwynt methiant a diffygion y setliad presennol yn y cyd-destun cyllidol yna. Felly, yng ngoleuni hyn oll, ydych chi'n cydnabod bod y setliad presennol yn annigonol, bod angen ail-negodi'r fframwaith gyllido, a gwneud hynny er mwyn cryfhau'r pwerau cyllidol sydd gennym ni fan hyn yng Nghymru, er mwyn ein hymbweru ni i ymateb yn well i sefyllfaoedd fel y maen nhw'n codi?