Darparu Gwasanaethau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:10, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol yng Nghymru drwy amrywiaeth o fecanweithiau ymgysylltu ffurfiol ac anffurfiol ar draws pob portffolio. Mae Gweinidogion yn gweithio gydag arweinwyr, ac mae ein swyddogion yn gweithio gyda'i gilydd, i sicrhau eu bod yn datblygu polisïau gwell a chanlyniadau gwell wrth ddarparu gwasanaethau i bobl Cymru.