Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 13 Hydref 2021.
Prynhawn da, Weinidog. A gaf fi ofyn ichi eto ynglŷn ag ardrethi busnes? Oherwydd, fel llawer o gyd-Aelodau yn y Siambr hon, gofynnir i ni am ardrethi busnes gan fusnesau teuluol bach, sydd o dan bwysau mawr ar hyn o bryd. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu â'r busnesau hynny, yn enwedig busnesau teuluol bach, pa ddiwygiadau sy'n digwydd ac yn wir y rheolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru, neu'r diffyg rheolaeth, mewn perthynas â'u sefyllfa benodol. Ac a gaf fi ofyn hefyd pa ryddhad ar gyfer buddsoddiadau yr ydych yn edrych arno er mwyn cefnogi'r busnesau bach a chanolig hynny i fuddsoddi er mwyn hybu cynhyrchiant ac ymdrechion datgarboneiddio? Diolch yn fawr iawn.