Adfer Tomenni Glo

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:15, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Rhaid i Lywodraeth y DU weithredu i fynd i'r afael â'r gost etifeddol hirdymor i Gymru o atgyweirio, adfer ac ail-lunio safleoedd tomenni glo, a etifeddwyd gan y diwydiant glo cyn datganoli. Mae angen o leiaf £600 miliwn dros ddegawd a hanner, llawer mwy na'r disgwyl pan ddechreuodd datganoli a'n trefniadau ariannu presennol.