Adfer Tomenni Glo

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:16, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae creithiau ffisegol y chwyldro diwydiannol yn etifeddiaeth yr ydym yn byw gyda hi heddiw, gyda bron i 40 y cant o'r holl domenni glo segur yn y DU yma yng Nghymru. Fel y dywedoch chi mor gywir, mae costau adfer ar raddfa sy'n uwch nag unrhyw beth y gellid bod wedi'i ragweld pan ddechreuodd datganoli, ond mae'n bwysig ein bod yn ymdrin â'r mater hwn yn awr. Felly, a wnewch chi bwyso ar Lywodraeth y DU yn yr adolygiad o wariant sydd i ddod i ymrwymo'r buddsoddiad sydd ei angen i fynd i'r afael â'r broblem hirsefydlog hon, mewn ardaloedd fel Cwm Cynon, i sicrhau diogelwch ein holl gymunedau?