Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Benfro

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:57, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol fod Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn ystyried dyfodol ei ganolfannau gwastraff ac ailgylchu, ac mae'r opsiynau'n cynnwys lleihau nifer y safleoedd a weithredir gan y cyngor a lleihau oriau agor pob safle. Nawr, ni allaf bwysleisio pwysigrwydd casglu gwastraff ac ailgylchu i'n hamgylchedd, ac yn wir, i'n hiechyd, a phe bai'n rhaid i breswylwyr deithio ymhellach am y gwasanaethau hanfodol hyn, gallai ddadwneud peth o'r cynnydd da a wnaed gan Gyngor Sir Penfro dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, a allwch ddweud wrthym, Weinidog, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i Gyngor Sir Penfro i sicrhau y gallant gadw eu safleoedd ar agor fel bod gan bobl yn sir Benfro fynediad at ganolfannau gwastraff ac ailgylchu?