Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 13 Hydref 2021.
Weinidog, a gaf fi ofyn ichi am gefnogaeth i gynghorau cymuned, yn arbennig, gan Lywodraeth Cymru? Rwy'n ymwybodol, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, fod gofyniad i gynghorau cymuned sefydlu systemau i ganiatáu cyfarfodydd wyneb yn wyneb, o bell neu hybrid. Mae llawer o gynghorau cymuned, wrth gwrs, yn cyfarfod mewn canolfannau cymunedol neu neuaddau pentref, ac nid oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd. Felly, mae angen cymorth ar y cynghorau hynny, yn arbennig. Rwy'n ymwybodol fod gan Lywodraeth Cymru gronfa a oedd ar gael i bobl wneud cais amdani, ond mae'r gronfa honno bellach ar gau i geisiadau newydd. Felly, a gaf fi ofyn pa gefnogaeth bellach y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gynghorau cymuned lleol yn y cyd-destun hwn?