Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 13 Hydref 2021.
Felly, roeddwn yn cyfeirio at ein cynnydd da yng Nghymru yn ailgylchu gwastraff cartrefi, sy'n golygu mai ni yw un o'r gorau yn y byd, ac yn amlwg, rydym am gynnal hynny a pharhau i wella ein perfformiad yn hynny o beth.
Fel y dywedwch, mae sir Benfro yn ymgynghori ar hyn ar hyn o bryd. Mater i Gyngor Sir Penfro yw hwn. Fodd bynnag, byddaf yn rhoi gwybod am eich pryderon i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am wastraff.