Cynnyrch Lleol ar gyfer Prydau Ysgol

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:23, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydym yn amlwg yn cydnabod manteision clir iawn caffael cynnyrch lleol o safbwynt gwahanol ystyriaethau, ac mae hynny'n cynnwys milltiroedd bwyd, a fyddai, yn amlwg, yn rhan bwysig o'ch cwestiwn. Hefyd, os ydych yn defnyddio cynnyrch lleol, credaf fod hynny'n helpu plant a phobl ifanc i gysylltu'n dda â'u hamgylchedd lleol. Mae un neu ddau o awdurdodau lleol yn gweithio'n galed iawn yn y maes hwn. Gwn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a Chyngor Sir Caerfyrddin, rwy'n credu, yn edrych ar y ffordd yr ydym yn caffael bwyd ar hyn o bryd, ac yn amlwg, byddai monitro'r allyriadau carbon yn rhan o'r gwaith hwnnw wrth symud ymlaen. Mae'n ddrwg gennyf, mae sir Fynwy, hefyd yn gweithio'n galed iawn yn y maes hwn. Ond unwaith eto, ni fyddai hyn yn rhan o fy mhortffolio i, ond fe wnaf yn siŵr fod y Gweinidog yn ymateb os oes unrhyw wybodaeth bellach.