Pysgota Anghyfreithlon

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:37, 13 Hydref 2021

Mae cymdeithas o bysgotwyr lleol wedi cysylltu efo mi ynghylch potsio honedig sy'n digwydd, a diffyg gorfodi deddfau pysgota. Yr honiad ydy bod yna ostyngiad sylweddol yn nhimau gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru, gan adael tîm o ddim ond 15 i wneud y gwaith yma ar hyd a lled Cymru. Mae'r gymdeithas pysgotwyr yn teimlo bod hyn yn annigonol ar gyfer diogelu ein pysgodfeydd, ac yn adrodd bod potswyr yn manteisio ar hyn, ac yn achosi niwed mawr i'r stociau pysgod ac i hyfywedd y dyfrffyrdd i'r dyfodol. Pa gamau penodol ydych chi am eu cymryd i wella'r sefyllfa yma?