Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 13 Hydref 2021.
Mae ffermwyr Cymru yn cael gwerth llawn yr anifail ar y farchnad am wartheg sy'n cael eu difa o dan y rhaglen i ddileu TB. Byddaf yn gwneud datganiad ar lafar fis nesaf ynghylch y diweddariad o'r rhaglen i ddileu TB yng Nghymru. Bydd trefniadau ar gyfer talu iawndal TB i ffermwyr yn rhan o'r datganiad hwnnw.