Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 13 Hydref 2021.
Roedd dynodi parthau perygl nitradau yn un o ofynion cyfarwyddeb nitradau'r UE, ac aseswyd effeithiolrwydd dynodiad y parthau perygl nitradau fel rhan o'n hymrwymiad. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu dynodiad y parthau perygl nitradau yn rheolaidd i bennu ardaloedd ar gyfer eu dynodi o'r newydd, parhau dynodiad neu ddad-ddynodi.