Gwarchodfeydd Anifeiliaid

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:54, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Soniais yn fy ateb blaenorol i Tom Giffard fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiect gydag awdurdodau lleol. Mae'n brosiect tair blynedd a ddechreuwyd gennym fel rhan o'n gwaith ar gyflwyno deddfwriaeth mewn perthynas â gwahardd gwerthu cŵn a chathod gan drydydd parti, a gyflwynais ychydig wythnosau yn ôl. Felly, rydym wedi ariannu'r prosiect hwnnw, gan weithio gydag awdurdodau lleol, i weld beth oedd y rhwystrau, oherwydd nid wyf yn credu bod angen deddfwriaeth bob amser. Roeddem yn sicr eisiau gweld beth oedd y rhwystrau hynny, ac roedd cyllid yn amlwg yn rhwystr, felly fe wnaethom ariannu'r prosiect, ac rwy'n credu bod hynny wedi helpu swyddogion gorfodi awdurdodau lleol i ddilyn y canllawiau statudol diweddaraf, er enghraifft. Maent wedi cael hyfforddiant ychwanegol ac mae'n rhaid i mi ddweud, maent wedi bod yn bartneriaid da iawn wrth gyflwyno'r canllawiau hyn.