Parthau Perygl Nitradau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:02, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Nid oes gennym barthau perygl nitradau dynodedig pwrpasol yng Nghymru mwyach, fel y gwyddoch, ac ar 27 Ionawr eleni, cyflwynais Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, ac fel y gwyddoch, daeth y mesurau cychwynnol hynny i rym ar 1 Ebrill. Roedd y rheoliadau hynny'n dirymu ac yn disodli Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013, a oedd yn dynodi parthau perygl nitradau cyn hynny wrth gwrs, ac fel y gwyddoch, ar hyn o bryd, mae caniatâd wedi'i roi i'r llysoedd adolygu'r rheoliadau hynny.