Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 13 Hydref 2021.
Diolch. Mae'n rhywbeth rwy'n ei ystyried ar hyn o bryd fel rhan o'r cynllun lles anifeiliaid. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion—y prif swyddog milfeddygol a'i swyddogion—i edrych ar gynllun lles anifeiliaid pum mlynedd i Gymru fel y gallwn adeiladu ar y cynnydd a wnaethom ar les anifeiliaid, yn sicr dros yr 16 mlynedd diwethaf, a fy mwriad yw cyflwyno cynllun lles anifeiliaid yn nes ymlaen eleni a fydd yn edrych ar yr hyn y dylem ei wneud dros bum mlynedd nesaf y Llywodraeth hon. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth rwy'n ei ystyried yn rhan o hynny. Credaf fod ystod eang o bolisïau y mae angen inni eu cyflwyno, nid yn unig mewn perthynas â chŵn, ond os ydym am gynnal y momentwm sydd gennym, oherwydd credaf fod gennym safonau lles anifeiliaid uchel iawn yng Nghymru, rwy'n credu bod angen inni edrych ar y momentwm hwnnw i ddiwygio, ac yn sicr bydd y cynllun yn gwneud hynny.