Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 13 Hydref 2021.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond mae gennyf bryderon sy'n ymestyn y tu hwnt i'r argyfwng presennol mewn perthynas ag amseroedd ymateb ambiwlansys. Yr wythnos ddiwethaf, cafwyd ymosodiad llosgi bwriadol yng Nghlwb Pêl-droed y Rhyl ar yr un pryd ag y cafwyd tân mewn gwesty ym Mhrestatyn. Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod dan bwysau wrth orfod ymdrin â'r ddau ddigwyddiad yn fy etholaeth. Mae'n gas gennyf feddwl beth fyddai wedi digwydd pe bai damwain ddifrifol neu dân mewn tŷ yn rhywle arall yn Nyffryn Clwyd y diwrnod hwnnw. Weinidog, pa gamau y bydd pwyllgor y Cabinet ar ogledd Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod digon o wasanaethau tân ac achub yn cael eu darparu ar gyfer gogledd Cymru, a fy etholaeth i'n benodol?