Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 13 Hydref 2021.
Bûm ar ymweliad amserol iawn yr wythnos diwethaf â fferm wynt Pen y Cymoedd. I unrhyw un nad yw'n gyfarwydd â'r lle, dyma'r fferm wynt ar y tir fwyaf yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n rhedeg ar hyd pen uchaf fy etholaeth i a sawl etholaeth arall. Mae ganddi 76 o dyrbinau, a phrin fod un ohonynt i'w weld o lawr y dyffryn, ac mewn blwyddyn gyfartalog bydd yn pweru'r hyn sy'n cyfateb i 188,000 o gartrefi. I roi hynny mewn persbectif, dyna oddeutu 15 y cant o aelwydydd Cymru—cyfraniad gwirioneddol bwysig. Mae hefyd wedi rhoi llawer o arian i mewn i economi Cymru; aeth 52 y cant o'r buddsoddiad gwreiddiol o £400 miliwn yn uniongyrchol i gwmnïau o Gymru, a sicrhaodd hyn waith i fwy na 1,000 o weithwyr yng Nghymru yn ystod y gwaith o'i adeiladu. Mae wedi creu cyfleoedd prentisiaeth, ac mae hefyd wedi diogelu'r amgylchedd ac wedi hybu bioamrywiaeth. Rwy'n hyrwyddwr rhywogaeth y troellwr mawr, sy'n nythu ar y safle hwn, felly rwyf wedi croesawu'r cyfle i allu dilyn yr agwedd hon ar eu gwaith.
Mae'r fferm wynt hefyd wedi gweithredu cronfa budd cymunedol arbennig o uchelgeisiol. Bob blwyddyn tan 2043, mae £1.8 miliwn ar gael i fusnesau a grwpiau ar draws cymoedd Cynon, Afan, Castell-nedd a'r Rhondda. Ac yn bwysig, rwy'n meddwl, nid asiantaethau allanol sydd yng ngofal y gronfa. Yn hytrach, yr arbenigwyr lleol yw'r bobl sydd wedi bod yn rhan o lunio'r weledigaeth—pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau hynny, sy'n adnabod ac yn defnyddio gwasanaethau lleol, sy'n deall yr ardal y maent yn byw ynddi, beth sydd ar gael a beth sydd ar goll. Mae'r gronfa hon wedi bod yn cefnogi cymunedau ers i'r fferm wynt ddod yn weithredol yn 2017. Rhwng hynny a mis Ebrill 2021, yn fy etholaeth i yn unig, mae 129 o sefydliadau a busnesau wedi cael cefnogaeth uniongyrchol. Mae'r cyllid hwnnw, i grwpiau yn fy etholaeth i yn unig, yn werth tua £3 miliwn. Mae rhai grantiau'n fach, er enghraifft, cannoedd o bunnoedd a ryddhawyd drwy grant microgyllido, ond mae cronfeydd eraill, y gellir eu cael drwy'r gronfa weledigaeth, yn fwy sylweddol, ar gyfer prosiectau sy'n cyfrannu at gyflawni gweledigaeth y cymunedau.
Felly, beth a gefnogwyd â'r arian hwnnw? Wel, busnesau, corau a grwpiau diwylliannol, cymorth iechyd meddwl a hybu llesiant, mentrau amgylcheddol, neuaddau cymunedol, prosiectau treftadaeth, timau chwaraeon, grwpiau teuluol, cynlluniau i gefnogi pobl hŷn ac i goffáu'r rhai a wasanaethodd eu gwlad. Mae'r gronfa hefyd wedi cefnogi prosiectau trawsnewidiol ar raddfa fawr fel Dŵr Dâr, y pad sblasio poblogaidd ym mharc Aberdâr. Mae wedi helpu i addasu eglwys Sant Elfan i fod yn ofod cymunedol deniadol, ac mae wedi chwarae rhan yn y gwaith o greu canolfan gymunedol Cynon Linc sydd newydd agor. Mae'r gronfa wedi cefnogi popeth o gymdeithasau celfyddydol i elusennau diffibrilwyr, ac yn fwy diweddar, lansiodd gronfa argyfwng COVID, y gellir ei defnyddio i ddarparu llif arian sydd ei angen ar frys neu i gefnogi arallgyfeirio ar gyfer rhywbeth sy'n gysylltiedig â COVID. Mae dros £0.5 miliwn wedi'i ddosbarthu drwy honno i gefnogi 32 o fusnesau a sefydliadau, ac mae wedi galluogi 23 o brosiectau ymateb COVID eraill i sefydlu a chefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf mewn cymunedau lleol.
Mae'n amlwg fod angen ynni adnewyddadwy arnom. Ond gyda hynny, mae arnom angen prosiectau sydd o fudd i'w cymunedau. Os caf droi at drydydd pwynt y cynnig sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiadau effaith cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o'r broses gynllunio. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r argymhelliad hwn, a hoffwn ein gweld yn grymuso ein cymunedau i gael y disgwyliadau uchaf o fudd cymunedol, i gydgynhyrchu cynlluniau ar gyfer budd cymunedol ac i feddwl mwy am gynlluniau buddsoddi ymlaen llaw, megis un a welwyd yn yr Alban yn ddiweddar, lle nad oedd y gymuned yn fodlon â'r gronfa draddodiadol y gallai achosion da lleol wneud cais iddi, ac yn hytrach, yr hyn y dymunent ei gael oedd fflyd o geir trydan y gallai'r pentref eu rhannu, ac fe'u cawsant. Mae'r cyfleoedd ar gyfer budd cymunedol yn wirioneddol ddiddiwedd, ond ni ellir manteisio'n llawn ar y potensial hwn heb roi syniadau a gwybodaeth i bobl am yr hyn sy'n bosibl.
Rwyf am gloi drwy nodi un pwynt pwysig y mae'r cynnig yn ei hepgor, sef sut y gallwn annog cynhyrchiant ynni cymunedol a chydweithredol yn y ffordd orau. Yr wythnos diwethaf, clywodd y grŵp trawsbleidiol ar gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol gan siaradwyr amrywiol, gyda phob un yn pwysleisio budd cynlluniau cymunedol. Disgrifiodd Robert Proctor o Ynni Cymunedol Cymru, er enghraifft, sut y mae 100 y cant o'r elw o'r rhain yn mynd i'r cymunedau lleol sy'n eu rheoli. Maent yn cynhyrchu ynni gwyrdd ar lefel leol, ond maent hefyd yn creu—