Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 13 Hydref 2021.
A dyna un o'r problemau. Mi wnes i gyflwyno cynnig am ddeddfwriaeth newydd i'r Senedd yn ddiweddar, ar ôl i dîm deddfwriaethol y Senedd gadarnhau y byddai angen deddfwriaeth sylfaenol i fynnu asesiad o fudd cymunedol o'r math yma. Ches i ddim fy nhynnu o'r balot, ond mae'r ddadl yn sicr yn dal yn fyw gen i. Yn y cyd-destun hwnnw, dwi'n croesawu datganiad RWE heddiw: