Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 13 Hydref 2021.
Mae gan Gymru gyfoeth o botensial ynni adnewyddadwy a gwyrdd, a byddwn ar fai yn peidio â dechrau, o gofio mai Rhun ap Iorwerth a sicrhaodd y ddadl hon, drwy sôn am y cyfleoedd ar Ynys Môn. Fe soniodd am solar, ond mae safle ynni niwclear Wylfa Newydd yn ymgyrch rwy'n gwybod bod ei gyd-Aelod etholaethol, yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn, Virginia Crosbie, wedi'i hyrwyddo'n rymus. Ond hoffwn ganolbwyntio ar brosiect oddi ar arfordir fy etholaeth fy hun, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro: prosiect arloesol, gwerth miliynau o bunnoedd Blue Gem Wind, menter ar y cyd rhwng TotalEnergies, un o gwmnïau ynni mwyaf y byd, a Simply Blue Energy, datblygwr ynni arloesol yn y môr Celtaidd. Bydd y prosiect yn datblygu gwynt ar y môr arnofiol, a elwir yn FLOW, yn nyfroedd y môr Celtaidd.
Bydd FLOW yn dod yn dechnoleg allweddol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, gyda dros 80 y cant o adnoddau gwynt y byd mewn dyfroedd dyfnach na 60m. Mae astudiaethau annibynnol wedi awgrymu y gallai fod cymaint â 50 GW o gapasiti trydan ar gael yn nyfroedd y môr Celtaidd oddi ar arfordiroedd y DU ac Iwerddon. Gallai'r adnodd ynni adnewyddadwy hwn chwarae rhan allweddol wrth i'r DU geisio cyrraedd targed sero-net 2050 sy'n angenrheidiol i liniaru newid hinsawdd. Bydd ynni gwynt arnofiol—FLOW—yn darparu cyfleoedd ar gyfer cadwyn gyflenwi carbon isel newydd, yn cefnogi cymunedau arfordirol ac yn creu manteision hirdymor i'r rhanbarth. Yn fy etholaeth i, amcangyfrifir y gallai 1 biliwn watt cyntaf Blue Gem o ynni gwynt arnofiol ddarparu dros 3,000 o swyddi a £682 miliwn mewn cyfleoedd ar gyfer y gadwyn gyflenwi, gan agor byd newydd o ynni adnewyddadwy ar y môr gyda sir Benfro yn ei ganol, ac o fudd i'r gymuned yn ddi-os.
Bydd y prosiect arddangos cyntaf yn y môr Celtaidd, prosiect 96 MW Erebus, yn dod yn un o'r prosiectau gwynt ar y môr mwyaf yn y byd pan gaiff ei adeiladu yn 2026. Caiff ei ddilyn gan Valorous, prosiect masnachol cynnar 300 MW, unwaith eto, yn y môr Celtaidd, a fyddai'n arwain at bweru 280,000 o gartrefi bob blwyddyn, tra'n arbed dros 455,000 tunnell o allyriadau carbon y flwyddyn. Ond yr hyn sy'n wirioneddol anhygoel am brosiect Blue Gem Wind a'r cyfleoedd sy'n codi yn y môr Celtaidd yw nad un ardal yn unig sy'n elwa mewn gwirionedd, ac ni all un ardal gyflawni'r prosiect ar ei phen ei hun chwaith. Rhaid ei rannu ar draws nifer o ardaloedd a nifer o borthladdoedd. Arweinia at ledaenu budd cymunedol y prosiectau newydd hyn ymhellach, gan nad yw swyddi medrus a manteision economaidd wedi'u crynhoi mewn ardal fach.
Gall cymunedau yn ne-orllewin Cymru, de-ddwyrain Gweriniaeth Iwerddon ac ierdydd llongau yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban oll elwa o'r prosiect hwn. Ond nid yw'r budd yn mynd i ymddangos heb gyfraniad gweithredol gan y Llywodraeth ar bob lefel. Mae prosiectau masnachol fel y rhain yn gweithio ar gyflymder nas gwelir fel arfer o fewn adrannau'r llywodraeth, a gwn fod yr Aelod o Flaenau Gwent wedi codi'r pryderon hanesyddol ynghylch polisi ynni yn flaenorol. Mae cyflymder yn hanfodol mewn perthynas â'r prosiectau hyn, er mwyn sicrhau na chânt eu colli ac na chollir y budd cymunedol chwaith. Mae angen inni ddeall y cyfyngiadau y mae'r busnesau a'r prosiectau hyn yn gweithio oddi tanynt a gwneud yr hyn a allwn i symleiddio'r broses. Nid galwad am osgoi cyfyngiadau cynllunio a rheoleiddio allweddol yw hon, ond am weithio'n gyflym ac yn adeiladol i helpu'r prosiectau hyn i gael eu traed oddi tanynt a chyflawni eu manteision amgylcheddol, economaidd a chymunedol. Ym mhob cwr o Gymru, mae gennym enghreifftiau o brosiectau sy'n ymdrechu i wneud gwahaniaeth. Mae'r penderfyniad yno, mae'r fenter yno, y cyfan sydd ei angen arnom yw'r hyder i'w wireddu. Diolch yn fawr.