Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 13 Hydref 2021.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod llawer iawn o gonsensws wedi bod yn y Senedd y prynhawn yma ar bwysigrwydd ynni adnewyddadwy a pha mor hanfodol yw sicrhau bod hyn wedi'i wreiddio yn ein cymunedau, o ran cael ei dderbyn, ond hefyd o ran gwireddu'r budd y tu hwnt i'r budd ehangach neu ein helpu i gyrraedd sero-net. Rydym yn cytuno â safbwynt yr Aelod y dylem sicrhau bod ein cymunedau'n teimlo budd y datblygiadau hanfodol hyn, ac mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r anghysur a fynegodd am ffermydd solar ar raddfa fawr, yn arbennig, yn codi ledled y wlad, heb fynd i sôn am unrhyw un yn benodol. Credaf ein bod yn well ein byd yn canolbwyntio solar ar adeiladau nag ar ddefnyddio darnau mawr o dir.
Roedd hon yn thema a ddaeth i'r amlwg mewn nifer o'r areithiau gan yr Aelodau; mae'n amlwg fod cydbwysedd i'w daro ar yr effaith amgylcheddol. Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders, yn ei sylwadau, at adfywio gwely'r cefnfor. Mae hwnnw'n bwynt pwysig, yn ogystal ag enghreifftiau eraill a roddwyd lle nad oedd datblygiadau'n gweddu'n llwyr i'w cymunedau lleol. Credaf fod yn rhaid inni sicrhau cydbwysedd bregus. Er mwyn cyrraedd sero-net, gwyddom y bydd yn rhaid inni wneud mwy o doriadau yn ein hallyriadau yn y 10 mlynedd nesaf nag a wnaethom dros y 30 mlynedd diwethaf, a bydd yn rhaid cynyddu cyflymder a maint yn y blynyddoedd y tu hwnt i hynny. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu ar raddfa fawr, yn gyflym, ond mae angen inni hefyd ddod â chymunedau gyda ni ac mae angen inni fod yn ymwybodol o effeithiau eraill y datblygiadau hyn. Bydd yn rhaid inni deimlo ein ffordd drwy hynny, a dweud y gwir; nid oes templed ar gyfer gwneud hynny'n sensitif.
Rwy'n cytuno'n llwyr â byrdwn y ddadl ynghylch perchnogaeth ar asedau adnewyddadwy yn lleol, a rhaid inni ddatblygu cadwyni cyflenwi cryf a chyfleoedd swyddi yng Nghymru, fel yr amlinellodd Samuel Kurtz. Ar y prosiect penodol y soniodd amdano, y fferm wynt arnofiol yn nyfroedd y môr Celtaidd, gwn fod fy nghyd-Aelod, Julie James, wedi siarad mewn cynhadledd porthladdoedd ar gyfer y DU y bore yma, ac mae'n brosiect yr ydym yn edrych arno'n ofalus. Rydym am ddatblygu cynifer o wahanol fathau o brosiectau ag y gallwn, ac fel y dywedaf, mae cynnwys cymunedau yn allweddol.
Y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau budd yw drwy berchnogaeth leol, ac mae gan ein rhaglen lywodraethu darged i sicrhau cynnydd o 100 MW mewn ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r cyhoedd a'r gymuned erbyn 2026. Rydym yn cydnabod yr angen i gael cymorth ar waith i gyflawni'r uchelgais hwn. Mae gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi cyrff cyhoeddus a chymunedau i ddatblygu cynlluniau, ac rydym yn rhoi cymorth ariannol i ddatblygu prosiectau. I roi un enghraifft, cafodd y cwmni cydweithredol Egni help y gwasanaeth ynni i fuddsoddi mwy na £4 miliwn mewn solar ar doeau ledled Cymru i gynhyrchu pŵer am ddim i sefydliadau cymunedol ac i ysgolion, gan gynnwys cyfranddaliadau yn y cwmni cydweithredol i rai ysgolion yn nyffryn Aman uchaf mewn gwirionedd, sy'n brosiect ardderchog yn fy marn i, ac rwy'n awyddus i weld sut y gallwn ei ledaenu'n ehangach ledled Cymru.
Er gwaethaf heriau COVID, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwnaethom gefnogi'r gwaith o osod gwerth £35 miliwn o brosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy, gan gynnwys 9 MW o ynni adnewyddadwy. Erbyn 2030, mae gennym darged i sicrhau y bydd 1 GW o'r cynhyrchiant ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol. Soniodd Rhun ap Iorwerth am ddau brosiect yng ngogledd-orllewin Cymru yr ymwelais â hwy yn ddiweddar, sef Ynni Ogwen a Menter Môn. Mae'r ddau wedi gwneud gwaith rhagorol gyda chymunedau, gan sicrhau budd yn lleol, yn ogystal â'i wneud mewn ffordd sy'n sensitif i'r amgylchedd lleol. Rwy'n credu bod llawer y gall pawb ohonom ei ddysgu o'u gwaith rhagorol. Rydym wedi gosod disgwyliad y dylai pob prosiect ynni adnewyddadwy gynnwys o leiaf elfen o berchnogaeth leol o hyn ymlaen. Unwaith eto, dyma un o'r problemau eraill a wynebwn, oherwydd, yn amlwg, er mwyn cyrraedd y targedau hyn, rydym am gael datblygiadau sylweddol a all ein helpu i gyrraedd ein hamcanion. Ond mae hynny'n rhy aml yn golygu bod gan gwmnïau rhyngwladol mawr tramor allu a chyfalaf i ddod i mewn a symud y datblygiadau hyn yn eu blaen.
Mae hynny'n amlwg yn rhywbeth yr ydym am ei annog, ac rydym wedi gweithio'n agos gyda'r sector hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf, ond gwyddom fod cyfyngiadau ar yr hyn y gall y sector preifat ei wneud i gefnogi cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac i ddod â chymunedau gyda hwy, ac i roi cymaint ag y maent yn ei haeddu o fudd o'r cynlluniau. A soniwyd am nifer o enghreifftiau o'r symiau pitw sy'n cael eu cynnig i rai cymunedau. Ac yn amlwg nid dyna'r hyn yr ydym ni am ei weld. Felly, drwy wasanaeth ynni'r Llywodraeth, rydym yn gweithio gyda chymunedau a chyrff cyhoeddus i archwilio opsiynau perchnogaeth, ac rydym wedi bod yn datblygu canllawiau gyda'u mewnbwn hwy i gynorthwyo gyda'u trafodaethau. Ac rydym yn dechrau gweld tystiolaeth o ddatblygwyr mawr yn cymryd camau cadarnhaol i ymgysylltu â'n cymunedau, ond mae'n deg dweud nad ydym wedi cyrraedd lle mae angen inni fod. Mae ymgysylltu'n dameidiog a'r dull o weithredu yn anghyson.
Yfory, Ddirprwy Lywydd, rwy'n lansio ymarfer at wraidd y mater arall, y tro hwn i ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a byddaf yn archwilio beth arall y gallwn ei wneud i ddenu cyfoeth o ddatblygiadau preifat a chefnogi mwy o berchnogaeth a datblygu cymunedol yng Nghymru. A byddwn yn archwilio'r posibilrwydd o sefydlu datblygwr ynni sy'n eiddo cyhoeddus i gyflymu'r gwaith o ddarparu ynni adnewyddadwy a fydd yn creu mwy o fudd cymunedol a chyhoeddus nag y mae'r modelau presennol yn eu cynnig. Wrth gwrs, mae angen inni weithio gyda datblygwyr preifat, a'r gadwyn gyflenwi, fel y soniwyd. Mae cyfleoedd yma ar gyfer swyddi gwyrdd a sgiliau gwyrdd, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y budd hwnnw.
Felly, rydym yn adeiladu darlun o'r prosiectau sy'n cael eu datblygu a'u hanghenion o ran y gadwyn gyflenwi a'r gweithlu, ac rydym yn gweithio gyda'n colegau i ddatblygu sgiliau'r dyfodol a chefnogi busnesau lleol i gyflenwi i'r farchnad newydd. A hefyd, yn hollbwysig, rydym yn pwyso ar Ystad y Goron a Llywodraeth y DU i wneud buddion economaidd lleol yn ystyriaeth berthnasol wrth roi hawliau a chontractau gwely'r môr. Ac rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio ystad goetiroedd Llywodraeth Cymru a thir arall sy'n eiddo cyhoeddus i gynnig cyfleoedd ar unwaith i ddatblygu prosiectau sy'n helpu eu cymunedau.
Felly, rwy'n credu bod llawer yn digwydd. Rwy'n cydnabod pwynt Alun Davies ynglŷn â bod dulliau gweithredu tameidiog a ffocws ar strategaethau yn hytrach na chyflawni yn difetha gormod o ymdrechion Llywodraethau ar draws y byd, ac mae angen inni sicrhau, wrth sefydlu'r portffolio hwn, ein bod yn canolbwyntio ar weithredu a chyflawni a chyflymder, a gallaf addo ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i wneud hynny. Ni allwn symud mor gyflym ag y dymunwn ei wneud, dyna un o rwystredigaethau mawr y rôl hon. Mae'r rhain yn brosiectau hynod gymhleth, a gall y broses o ddod â'r holl wahanol rannau at ei gilydd fod yn llawer arafach nag yr hoffem iddi fod. A dyna'r her i bob un ohonom, oherwydd gwyddom fod y wyddoniaeth a'r her yn fater brys, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i geisio sicrhau bod cyflymder y ddarpariaeth yn cyd-fynd â hynny. Ond byddwn yn sicr yn dweud wrth Alun Davies na fyddwn yn camgymryd—