Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 13 Hydref 2021.
Wel, yn amlwg, ni ellir dadlau â hynny. Ac un o'r pethau y byddaf yn canolbwyntio arnynt wrth ddechrau'r gwaith i fynd at wraidd y mater yfory fydd sut i symbylu a chynnull cynghrair dros newid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i wneud cynnydd go iawn. Oherwydd, fel y mae pob un ohonom yn cytuno yma y prynhawn yma, mae'r wobr yn wych a chost diffyg gweithredu yn rhy anodd ei hamgyffred. Diolch.