Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 13 Hydref 2021.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod hon wedi bod yn drafodaeth wirioneddol werthfawr, ac a gaf fi ddiolch yn gyntaf oll i'r Gweinidog am ei eiriau, pan ddywedodd ei fod yn dod yn agos at sefydlu, gobeithio, corff a fydd yn annog ac yn hyrwyddo ynni cyhoeddus yng Nghymru? Mae hynny'n swnio i mi fel pe bai ymgyrch hirfaith Plaid Cymru i sefydlu ynni Cymru, corff ynni i Gymru, wedi dwyn ffrwyth, ac rwy'n falch iawn ei bod yn swnio fel pe bai Llywodraeth Cymru ar fin rhoi rhywbeth tebyg iawn i hynny ar waith. A chredaf fod hynny'n rhywbeth cadarnhaol tu hwnt gan y credaf ei fod yn fodd o ganolbwyntio'n iawn ar y math o ddatblygiadau ynni yr hoffem eu gweld yng Nghymru.
Diolch am y cyfraniadau. Ie, rhai syniadau diddorol, nid budd cymunedol yn unig; Janet Finch-Saunders yn siarad am fudd amgylcheddol hyd yn oed yn sgil prosiectau ynni adnewyddadwy, a gwella bioamrywiaeth morol hyd yn oed. Ond rydym yn sôn heddiw am y budd cymunedol—rwy'n falch, yn etholaeth Vikki Howells, ei bod yn hapus fod y budd yn dod—ond fe ddywedoch chi eich hun eu bod yn wirfoddol, a dyna'r pwynt yma: mae angen mecanweithiau arnom i sicrhau eu bod yn llifo'n awtomatig o brosiectau o'r fath, ac er nad yw'r cynnig yn sôn am ynni cymunedol ac ynni cydweithredol, rwy'n siŵr y byddwch wedi sylwi bod hynny wrth wraidd y math o weledigaeth sydd gennyf fi, yn sicr, yn ogystal â'r rhan fwyaf o'r Aelodau yma hefyd, rwy'n credu.
Hoffwn roi sylw arbennig i Alun Davies a'i gyfraniad: yr un fath o weledigaeth ag sydd gennyf innau, ac wrth ddweud bod 'cymuned' yn air sydd wedi'i anghofio i raddau helaeth mewn polisi ynni, a bod angen ei adfer, credaf mai dyna'r union bwynt rwy'n ceisio'i wneud heddiw. Gallwn gael pob math o weledigaethau beiddgar ar gyfer cyflawni ein nodau newid hinsawdd, ac mae'n rhaid inni fynd ati'n ddygn i gyflawni'r rheini, ond mae'n rhaid inni gofio bod llawer o'r prosiectau'n digwydd mewn cymunedau, ac yn effeithio'n uniongyrchol ar gymunedau lle mae pobl yn byw, ac mae'n rhaid i hyn fod yn symbiosis.
Felly, dywedodd y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol fod cryn dipyn o gonsensws yma heddiw, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn. Nid wyf yn siŵr a fydd y Llywodraeth yn pleidleisio dros y cynnig fel y mae heddiw; rwy’n sicr yn gobeithio y bydd y Senedd yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw. Dywedodd y Gweinidog fod yn rhaid inni fynd â chymunedau gyda ni. Mae'n rhaid i berchnogaeth leol fod yn nod, ond fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi galluogi a grymuso cwmnïau rhyngwladol mawr i ddewis rhannau o Ynys Môn a rhannau eraill o Gymru fel ardaloedd lle credant fod ganddynt hawl awtomatig, bron, i fwrw ymlaen â'u datblygiadau. Ni all hynny ddigwydd, a byddaf yn falch o weithio gyda'r Llywodraeth i fod yn bont rhwng fy nghymunedau a'r Llywodraeth i gyflwyno'r achos fod yn rhaid i'r cwmnïau rhyngwladol hynny fynd y tu hwnt i'r gwirfoddol rywsut, rhaid iddynt fynd y tu hwnt i'r trothwy isaf posibl y credant y gallant ei gael mewn perthynas â budd lleol, a gobeithio y gallwn weithio tuag at reoleiddio cadarn o leiaf, yn ogystal â deddfwriaeth, rwy'n credu, i sicrhau nad yw ein cymunedau'n dioddef yn sgil datblygiadau ynni adnewyddadwy a datblygiadau ynni eraill, ond yn dod yn bartneriaid go iawn ynddynt hefyd. Diolch.