Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 13 Hydref 2021.
Dywedais na allwn fforddio aros, ond mae'r datganiadau a wnaethom a'r cynadleddau sydd i ddod yn rhoi cyfle inni fod yn radical, i fod yn arloesol ac i dorri cwys newydd, gan fod angen gweithredu ar frys. Mae'r argyfwng hinsawdd eisoes yn taro ein cymunedau'n galed. Y Rhondda, Llanrwst, Ystrad Mynach—mae strydoedd ym mhob cornel o'n gwlad, bron â bod, wedi wynebu llifogydd erchyll. Mae cartrefi a busnesau wedi'u dinistrio, ac mae tirlithriadau o domenni glo anniogel yn fygythiad parhaus. Mae tanau gwyllt a sychder wedi dod yn gyffredin, a bob blwyddyn daw tymereddau uwch nag erioed â dinistr yn eu sgil, gan godi'n ddi-droi'n-ôl fel y moroedd wrth ein traed.
Yn union fel y mae rhai pethau'n codi, mae eraill yn cwympo. Disgwylir i'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ar ein planed arwain at golli miliwn o rywogaethau. Yng Nghymru, mae'r RSPB a phartneriaid eraill wedi ein rhybuddio yn eu hadroddiad Cyflwr Natur 2019 fod 666 o rywogaethau yng Nghymru dan fygythiad o ddifodiant, ac mae 73 rhywogaeth eisoes wedi diflannu, sy'n drychineb y dylem wneud mwy na dim ond ei nodi a symud ymlaen. Mae'r rhywogaethau hynny wedi ein gadael oherwydd y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau. Mae niferoedd gloÿnnod byw wedi gostwng 52 y cant ers 1976, ac mae 30 y cant o rywogaethau mamaliaid y tir mewn perygl o ddiflannu'n gyfan gwbl yng Nghymru, fel y wiwer goch a llygoden y dŵr. Ddirprwy Lywydd, mae'r wyddoniaeth yn glir, ac mae Cymru yn teimlo effeithiau'r argyfyngau hyn sy'n cyd-fodoli, yr un sy'n parhau i godi a chodi, a'r llall sy'n ein tynnu i lawr i ddyfnderoedd colled.
Felly, beth y gallwn ei wneud i newid hyn? Wel, mae ail ran ein cynnig yn nodi cyfres o gamau beiddgar ac uchelgeisiol y gall, ac y mae'n rhaid i Gymru eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â difrifoldeb yr argyfyngau hyn. Rydym yn galw ar y Llywodraeth i gynyddu potensial ein gwlad ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu cwmni datblygu ynni wedi'i gefnogi gan y wladwriaeth. Rydym yn galw am ddatblygu gweithlu sero-net yn y sector ynni, ehangu capasiti ynni adnewyddadwy drwy fuddsoddi mewn gwaith uwchraddio i'r grid trydan, strategaeth ar gyfer porthladdoedd Cymru a fyddai'n cefnogi'r sector gwynt ar y môr, a chynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni ac i sicrhau nad yw datblygiadau adnewyddadwy yn cael eu cynllunio yn yr ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol.
Dywedais fod adnoddau ar gael i ni, ond nid yw holl adnoddau Cymru o dan ein rheolaeth, a dyna pam ein bod hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgyrchu dros ddatganoli rheolaeth Ystad y Goron yn llawn a datganoli pwerau ynni yn llawn, er mwyn sicrhau bod gennym yr holl ysgogiadau sydd eu hangen arnom i fynd benben â'r argyfyngau hyn.
Nawr, bydd llawer o'r hyn y siaradwn amdano yn y ddadl hon ar raddfa enfawr, targedau byd-eang a llwybrau a chynlluniau sy'n ymestyn ddegawdau i'r dyfodol, ond nid mewn graffiau neu rifau neu beilonau yn yr awyr yn unig y caiff effeithiau diffyg gweithredu gan y Llywodraeth yn y meysydd hyn eu mesur. Effeithir ar fywydau pobl ar lawr gwlad mewn ffordd aruthrol o bersonol hefyd. Mae'r argyfwng ynni diweddar yr ydym yn dal i fod yn ei ganol wedi tanlinellu ein dibyniaeth ar farchnadoedd ac adnoddau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, a pha mor agored yr ydym i'w siociau hwy. Mae cwsmeriaid yn wynebu biliau uwch ac mae'r diwydiant yn wynebu toriadau yn y cyflenwad a chau i lawr. Y teuluoedd sydd leiaf abl i fforddio prisiau uwch fydd yn cael eu taro waethaf. Mae'r llifogydd y soniais amdanynt yn gynharach nid yn unig yn dinistrio tai, maent yn rhwygo bywydau pobl. Dyna ganlyniad diffyg gweithredu.
Ddirprwy Lywydd, pan gawsom ein dadl ym mis Mehefin, a arweiniodd at y Senedd yn datgan argyfwng natur, dywedodd Mike Hedges y gallai cymaint o greaduriaid annwyl yr ydym yn eu hadnabod mewn llyfrau plant ddiflannu o’n byd cyn bo hir. A chredaf fod y ddelwedd honno o lyfrau stori yn un gref. Pa lyfrau stori, pa lyfrau hanes, y byddem eisiau i'n hwyrion eu darllen yn datgan beth a wnaethom ar yr adeg hon, pan ellir newid cymaint o hyd, os bydd papur ar ôl i ysgrifennu arno? A ydym am i'r naratif ymddatod, i gaethiwo cenedlaethau'r dyfodol mewn dystopia o dir llosg, tirweddau llwm a llanw sy'n codi ac yn codi? Neu a ydym am droi'r ddalen heddiw, ac agor pennod a fydd yn caniatáu i'r plant hynny adrodd stori o lwyddiant? Mae llygaid y dyfodol arnom ni heddiw. Mae eu tynged yn ein dwylo ni. Gadewch inni ddechrau eu straeon yn awr tra gallwn.