6. Dadl Plaid Cymru: Y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:50, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'r Llywodraeth hefyd yn gefnogol iawn i lawer o'r hyn a nodir yn ail ran y cynnig. Rydym yn cytuno bod angen newid yn sylfaenol y ffordd y caiff pwerau a chyfrifoldebau eu dosbarthu ledled y DU. Dyna pam ein bod wedi cyhoeddi ein bwriad i sefydlu comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Ond yr hyn sydd ei angen arnom yw asesiad cynhwysfawr o'r pwerau sydd eu hangen ar Gymru mewn setliad cyfansoddiadol sylfaenol wahanol. Mae hyn yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i'n cyfrifoldebau ym maes ynni a rheoli Ystad y Goron yng Nghymru. A chredaf ei bod yn dweud llawer fod Janet Finch-Saunders yn ymddangos fel pe bai'n gwbl anymwybodol o'r ffaith nad yw'r grid wedi'i ddatganoli—o, na byddai—ac mae ei dryswch llwyr ynglŷn â hynny yn arwydd o wir natur yr angen i wneud y pethau hyn yn llawer cliriach. Oherwydd, yn anffodus, yr hyn a welsom gan y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yw gelyniaeth ddofn tuag at ddatganoli. Wrth iddynt ddathlu buddsoddiadau bach iawn yng Nghymru, yn debyg i'r rhestr yn y cynnig gan Darren Millar, mae Llywodraeth y DU hefyd yn tanseilio'r cyfrifoldebau y mae pobl Cymru wedi'u rhoi i'r Senedd hon mewn modd systemig.

Rydym yn croesawu buddsoddiad i Gymru, ond rydym eisiau gweithio gyda Llywodraeth y DU a pharhau â'n gwaith partneriaeth gyda llywodraeth leol a phartneriaid cymdeithasol ehangach yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU, yn anffodus, yn gwthio agenda sy'n mynd ati'n fwriadol i adael y Llywodraeth yng Nghymru allan, er mai hi sydd wedi bod yn gyfrifol am gyflawni dros Gymru dros y tri degawd diwethaf. Mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi bwrw ymlaen â chyllid ar gyfer pysgodfeydd yn ymosodiad uniongyrchol ar ddatganoli, ac mae wedi achosi dryswch, a bydd yn parhau i greu drwgdeimlad diangen ymhlith rhanddeiliaid. Ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant gan Darren Millar. Mae gwelliant y Llywodraeth yn rhannu teimlad y cynnig gwreiddiol, a galwaf ar bob Aelod i'w gefnogi. 

Wrth inni edrych ymlaen at COP26, mae'n bwysig iawn nad ydym yn anghofio'r camau sydd eisoes wedi'u cymryd yng nghynadleddau blaenorol partïon y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd, gan gynnwys COP24. Rydym wedi bod yn glir, wrth inni symud at sefyllfa lle bydd cyfran fwy o'n hynni yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, fod yn rhaid i'r newid hwn fod yn un cyfiawn. Clywsom nad oedd y newid diwethaf yn un cyfiawn ac rydym yn benderfynol iawn na fydd y newid hwn yn anghyfiawn. Mae ein rhaglen lywodraethu yn tanlinellu pwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol a thrawsnewid i sero-net mewn ffordd nad yw'n gadael unrhyw berson nag unrhyw le ar ôl. Roedd datganiad Silesia yn COP24 yn dangos yr angen i gefnogi gweithwyr yn rhan o'r newid hwn i sero-net. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ysbryd y datganiad hwnnw, gan adlewyrchu ei hanfod yn ein Bil partneriaeth gymdeithasol a'n methodolegau gwaith.

Drwy'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, rydym yn gweithio i sicrhau bod y seilwaith addysg ar waith i gefnogi'r twf yn yr economi werdd, ac mae Ynni Morol Cymru yn datblygu'r adnoddau sydd eu hangen i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle i gael swyddi medrus newydd mewn ynni morol yng Nghymru. Cytunaf yn gryf â nifer fawr o Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw fod hwn yn gyfle inni gael miloedd o swyddi gwyrdd newydd i bobl Cymru wrth ddatblygu'r diwydiannau newydd hyn, a galwaf ar y Senedd i gadarnhau ei hymrwymiad i'r egwyddorion a ymgorfforwyd yn natganiad Silesia.

Ddirprwy Lywydd, rydym yn glir fod gan Lywodraeth Cymru ran allweddol i'w chwarae yn trawsnewid ein system ynni drwy symud oddi wrth y defnydd o danwydd ffosil a thuag at ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae ein cynllun sero-net, sydd i'w gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf, yn nodi'r camau allweddol y byddwn yn eu rhoi ar waith i sicrhau mai hwn yn wir fydd y degawd o weithredu, a bod y sylfeini'n cael eu gosod i gyrraedd ein targedau ynni adnewyddadwy a sero-net. Wrth annog y cynnydd sylweddol mewn ynni adnewyddadwy, rydym wedi ymrwymo i gadw'r cyfoeth yn ein heconomi ac yn ein cymunedau. Felly, yfory, bydd fy nghyd-Aelod Lee Waters yn dechrau astudiaeth ddofn i bennu'r camau y gallwn eu cymryd i oresgyn y rhwystrau i fuddsoddi, a sut y gallwn gynyddu capasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol ledled Cymru. Rydym eisiau i'r sector cyhoeddus chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Ni fydd gadael buddsoddiad i'r sector preifat yn unig yn sicrhau budd o'r maint sydd ei angen ar ein cymunedau, na'r gyfran o fudd o'n hadnoddau cenedlaethol yr ydym ei hangen ar gyfer pobl Cymru.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf yn nodi rhagor o fanylion am ein cynlluniau i sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy sy'n eiddo cyhoeddus i arwain buddsoddiad yng Nghymru. Gwyddom fod y cyfleoedd ar gyfer hynny'n sylweddol iawn. Yn y môr Celtaidd yn unig, rydym yn gweld dechrau chwyldro mewn ynni morol, gyda photensial ar gyfer 15 GW o ynni gwynt arnofiol ar y môr. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein porthladdoedd, ein busnesau a'n cymunedau yn barod i elwa o'r buddsoddiad hwnnw. Drwy'r rhaglen ynni morol, rydym yn datblygu opsiynau i sicrhau maint y buddsoddiad sydd ei angen yn ein porthladdoedd yng Nghymru. Bydd hyn yn dod â chyfleoedd gwaith uniongyrchol a buddsoddiad newydd i'n cymunedau lleol, a thrwy'r rhaglen ynni morol, rydym hefyd yn ystyried sut y gall Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd o gynhyrchiant ynni'r llanw, gan gynnwys y gwaith sydd ar y gweill i gyflwyno her môr-lynnoedd llanw i sicrhau ein bod yn aros ar flaen y gad gyda datblygiadau môr-lynnoedd llanw ledled y byd.

Wrth i ni archwilio'r cyfleoedd ar gyfer ynni morol, rydym hefyd yn cydnabod yr effaith y gall ynni morol ei chael ar ein hamgylchedd a bioamrywiaeth ein hamgylchedd morol. Mae cynllun morol cenedlaethol Cymru yn gosod y fframwaith strategol ar gyfer datblygu i sicrhau bod datblygiadau newydd yn dilyn y gweithdrefnau cydsynio ac yn cynnal asesiad rheoleiddio cynefinoedd naill ai ar lefel cynllun neu ar lefel prosiect, gan sicrhau bod safleoedd dynodedig yn cael eu diogelu. Ers cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol Cymru, mae gwaith pellach wedi dechrau ar fapio rhyngweithiad sectorau, nodi meysydd adnoddau allweddol y bydd polisi diogelu yn berthnasol iddynt, a datblygu gwell dealltwriaeth o gyfyngiadau ecolegol. Drwy'r gwaith hwn, byddwn yn darparu canllawiau ar gyfer deall y lleoliadau mwyaf addas ar gyfer datblygu ynni morol.

Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n dychwelyd at bwysigrwydd COP26. Rwy'n annog arweinwyr y byd i ddangos yr arweiniad cyfunol sydd ei angen ar y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol pan fyddant yn cyfarfod yn Glasgow ymhen cwta 18 diwrnod. Mae'n rhaid inni beidio â cholli'r cyfle hwn. Ni allwn adael i'r ymateb tymor byr i amodau presennol y farchnad ynni beryglu'r camau pendant sydd eu hangen. Mae'n rhaid blaenoriaethu ymrwymiad byd-eang i roi diwedd ar y defnydd o lo ar gyfer cynhyrchu ynni. Fel y nodwyd yn ein polisi glo yn gynharach eleni, rydym yn gwrthwynebu echdynnu a defnyddio tanwydd ffosil, ac yn cefnogi cyfiawnder cymdeithasol yn y trawsnewid economaidd wrth gefnu ar eu defnydd. Rydym yn annog pob gwlad i ddilyn ein harweiniad yng Nghymru, a galwaf ar y Senedd i gefnogi'r cynnig yn enw Lesley Griffiths. Diolch.