Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 13 Hydref 2021.
Nid ydym wedi crybwyll un maes penodol, a chredaf y byddwn yn esgeulus pe na bawn yn cyfeirio ato. Y bore yma, mynychodd y Gweinidog a minnau ac eraill lansiad adroddiad gan WWF Cymru, RSPB Cymru a Maint Cymru sydd, rwy'n credu, yn pwysleisio'r ffaith mai rhan o'r broblem yn unig yw mynd i'r afael â'n hôl troed domestig o safbwynt allyriadau carbon a cholli bioamrywiaeth. Mae bai arnom na chafodd yr elfen fyd-eang ei chynnwys yn ein cynnig, nac yn unrhyw un o'r gwelliannau chwaith.
Mae gan Gymru ôl troed sylweddol iawn ar dir tramor—datgelwyd ffigurau go syfrdanol yn yr adroddiad heddiw. Fel y dywedais yn gynharach, mae'r effaith a gawn y tu hwnt i'n ffiniau yn adlewyrchiad arnom ni fel gwleidyddion a chymdeithas yn ehangach. Roedd angen arwynebedd sy'n cyfateb i 40 y cant o faint Cymru dramor i dyfu mewnforion o gynnyrch penodol a ddefnyddiwn yma yng Nghymru, caiff 30 y cant o'r tir a ddefnyddir i dyfu nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru yn rhai o'r gwledydd hynny eu categoreiddio fel rhai sydd â risg uchel neu uchel iawn o fod yn gysylltiedig â phroblemau cymdeithasol a datgoedwigo, ac mae'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â'r gweithgarwch hwnnw'n 4 y cant o gyfanswm amcangyfrifedig ôl troed carbon nwyddau domestig a nwyddau a fewnforir i Gymru, neu'r hyn sy'n cyfateb i bron i chwarter yr holl allyriadau trafnidiaeth yng Nghymru. Mae'n syfrdanol, mae'n peri syndod, mae'n gywilyddus mewn gwirionedd, ac mae pob un ohonom yn cyfrannu at hynny, yn anffodus. Mae'n bwysig, pan oedd Delyth Jewell, wrth agor y ddadl, yn sôn am yr angen am eglurder ynghylch y cydraddoldeb y mae angen inni ei sicrhau rhwng yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur—credaf ei bod bellach yn bryd i'r cydraddoldeb hwnnw gael ei adlewyrchu mewn perthynas â'n cyfrifoldebau domestig a'n cyfrifoldebau byd-eang, yn enwedig yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, lle mae bod yn wlad sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang yn gyfrifoldeb i bob un ohonom fel dinasyddion Cymreig.
Rwyf am ymateb i rai o'r cyfraniadau. Roedd Janet Finch-Saunders yn canmol y chwyldro gwyrdd ymddangosiadol, credaf mai dyna'r term a ddefnyddiwyd gennych, sydd ar ei ffordd o Lywodraeth San Steffan. Wel, rydych yn sicr yn gwneud eich rhan i wyrddgalchu'r Torïaid yno. Ni sonioch chi am faes olew Cambo nac am y pyllau glo newydd yng ngogledd Lloegr nac yn wir, fel y cawsoch eich atgoffa gan rai o'r Aelodau, am y diffyg cefnogaeth i fôr-lynnoedd llanw yng Nghymru, na'r modd y mae Llywodraeth y DU i'w gweld yn mynnu gwthio mwy o geir ar fwy o ffyrdd yng Nghymru, yn enwedig o amgylch Casnewydd. Felly, peidiwch â dod yma i siarad ar eich cyfer pan nad yw Llywodraeth y DU yn fodlon gweithredu. Rwy'n credu ei bod yn destun gofid eich bod wedi defnyddio'r cywair hwnnw. Ac yn yr un modd, Gareth Davies yn beio Blair a Brown am y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw. A bod yn deg, nid yw fel pe baem wedi cael Llywodraeth Dorïaidd am 10 mlynedd ers hynny, ond rwy'n siŵr y cewch gyfle i weithredu rywbryd. Gadewch i ni obeithio y cewch gyfle i weithredu erbyn i ni gyrraedd trafodaethau COP26. Oherwydd, fel y dywedodd y Gweinidog, mae'n garreg filltir, onid yw, ac ni ddylem golli'r cyfle. Fy ofn i yw bod Llywodraeth y DU wedi methu ffurfio cynghrair ryngwladol o gwmpas yr angen i fynd i'r afael â hyn cyn COP26 ond yn amlwg fe ddaw dydd o brysur bwyso a bydd yn rhaid inni aros i weld beth a gyflawnir. A gwn y bydd llawer ohonom yn mynychu ac yn chwarae ein rhan fach ein hunain gymaint ag y gallwn, gobeithio, i geisio cyflawni'r canlyniad yr hoffem ei gyflawni.
Rhys ab Owen, rydym angen pwerau i sicrhau'r dyfodol yr ydym ei eisiau, oherwydd wrth gwrs nid yw Llywodraeth y DU yn cynnig y dyfodol yr ydym eisiau ei weld. Ac fel y dywedodd Luke Fletcher, rydym angen sgiliau hefyd i allu cyflawni'r potensial sydd gennym. Ac fel y dywedodd Peredur hefyd, mae angen i'n cymunedau fod wrth wraidd yr adferiad gwyrdd. Mae angen iddo fod yn newid gan ein cymunedau ar gyfer ein cymunedau. Felly, boed yn gyflawni ar gyfer yr hinsawdd ac ar gyfer natur drwy ddatblygu prosiectau ynni, datblygu ein grid a'n porthladdoedd, buddsoddi yn ein cymunedau, mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth wrth gynllunio, newid ein hymddygiad fel defnyddwyr, gosod targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith—ac rwyf wedi bod ar daith mewn perthynas â'r targedau hynny. Roedd gennyf amheuon i ddechrau, ond rydym wedi gweld sut y mae targedau allyriadau carbon yn gyrru agenda yn hynny o beth—credaf y gallwn wneud yr un peth yn union mewn perthynas â bioamrywiaeth hefyd. Beth bynnag ydyw, ac mae'n debyg ei fod yn hynny i gyd a mwy, mae gan Gymru rôl go iawn i'w chwarae, ac mae Cymru'n frwd i chwarae ei rhan yn y gwaith o gyflawni hynny, gartref a thramor.
Felly, y cwestiwn yw: a ydym yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â hyn? Nawr, rwyf bob amser wedi dweud wrth y Llywodraeth, 'Pan fydd Gweinidogion yn ddewr, bydd y Senedd hon yn eich cefnogi. Pan fyddwch yn methu cyrraedd y nod, yn amlwg, byddwn yn eich dwyn i gyfrif.' Dywedodd Delyth Jewell wrthym ar ddechrau'r ddadl hon fod llygaid y dyfodol arnom heddiw, felly gadewch inni ailddatgan ein hymrwymiad i Gymru a'r byd drwy gefnogi cynnig Plaid Cymru.