Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 19 Hydref 2021.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o fod yn sefyll yma eto i'ch annerch yn y drydedd ddadl flynyddol yn y Senedd hon, gyda chynnig ar hil a chydraddoldeb hiliol sydd â chefnogaeth lawn ar draws y Siambr hon. Ac mae'n glod i ni ein bod wedi adeiladu ar waith pob blwyddyn i geisio canlyniadau cyfartal i'n cymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Wrth wneud hynny, rydym ni’n cydnabod bod hiliaeth yn bodoli a bod angen inni fynd i'r afael â hi ar lefel systemig a sefydliadol.
Felly, gadewch imi ddechrau gyda rhai enghreifftiau o gynnydd go iawn: y mis diwethaf, dadorchuddiwyd heneb i anrhydeddu Betty Campbell MBE, pennaeth ysgol du cyntaf Cymru ac ymgyrchydd hanes pobl dduon. Ar y panel o fewn yr heneb mae geiriau Betty Campbell:
'Roedden ni’n esiampl dda i weddill y byd o sut y gallwn gyd-fyw beth bynnag yw eich gwreiddiau neu liw eich croen.'
Roedd yn ddiwrnod arloesol i Gaerdydd ac i Gymru, ac yn foment falch iawn i mi wrth sefyll gyda'i theulu, Monumental Welsh Women, noddwyr, cyllidwyr, ac arweinwyr dinesig a chymunedol, ac fe wnaethom ni anrhydeddu'r athro ac ymgyrchydd cymunedol arloesol a weithiodd yn ddiflino dros gydraddoldeb hiliol ac addysg amlddiwylliannol. Rhoddodd Betty Campbell hanes pobl dduon ar y cwricwlwm yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Nhre-biwt, Caerdydd, a dysgodd ei disgyblion yno am effaith caethwasiaeth a chyfraniadau pobl dduon i hanes Cymru. Arweiniodd yr ymgyrch i efelychu hyn ym mhob un o'n hysgolion.
Felly, gadewch imi rannu ail enghraifft o gynnydd go iawn a phendant: y llynedd, cadeiriodd yr Athro Charlotte Williams OBE y gweithgor cymunedau, cyfraniadau a chynefin pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm newydd, ac roedd hwn yn adolygiad annibynnol ar gais y Gweinidog Addysg i gynghori ar addysgu hanes pobl dduon a'i wella ar draws pob rhan o gwricwlwm ysgolion, a ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i wneud addysgu hanes pobl dduon yn orfodol, ac rydym yn gwneud hyn gan gredu y bydd holl genedlaethau'r dyfodol yn dysgu’r gwir hanes ynghylch sut y cafodd y genedl hon ei hadeiladu. Mae ein system addysg wedi ehangu dealltwriaeth ein plant o'r diwylliannau niferus sydd wedi creu Cymru’r gorffennol a’r presennol, gan eu hysbrydoli i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus yng Nghymru’r dyfodol.
Mae fy enghraifft olaf o gynnydd go iawn yn cydnabod na allwn ailysgrifennu ein gorffennol, ond gallwn gydnabod a dysgu oddi wrtho. Yn sgil lladd George Floyd yn yr Unol Daleithiau, poblogrwydd cynyddol mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, a’r cynnydd mewn ymwybyddiaeth o wahaniaethau ar sail hil, gofynnodd y Prif Weinidog i Gaynor Legall arwain grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol i gynnal archwiliad o henebion, adeiladau ac enwau strydoedd hanesyddol Cymru sydd â chysylltiadau â’r fasnach gaethweision a'r ymerodraeth Brydeinig. Ac rydym ni nawr yn ystyried sut i symud ymlaen wrth i ni geisio anrhydeddu a dathlu cymunedau amrywiol.
Ond heddiw, yn anffodus, mae hiliaeth yn dal i fod o'n cwmpas; mae ar ein strydoedd, yn y gwasanaethau rydym ni’n eu darparu, yn ein gweithleoedd, a 2020 oedd y flwyddyn y gwnaethom ni i gyd wynebu hiliaeth fel erioed o'r blaen. Fel cenedl, dechreuodd pob un ohonom ni gael sgyrsiau heriol am effaith hiliaeth. Fe wnaeth COVID-19 amlygu effaith canlyniadau anghyfartal ar ein cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig fel erioed o'r blaen. Roedd yn alwad i weithredu er mwyn symud o'r dull cydraddoldeb hiliol i rywbeth mwy gweithredol a phendant, i gael gweledigaeth ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Ac ers mis Rhagfyr 2019, rwyf wedi bod yn trafod gyda fforwm hil Cymru y gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Ym mis Mawrth eleni, gwnaethom ni lansio ymgynghoriad y cynllun drafft ar gyfer Cymru wrth-hiliol; roedd hwnnw’n un o fy natganiadau olaf cyn yr etholiad ym mis Mai, a chafodd ei groesawu. Mae'r cynllun yn uchelgeisiol; mae'n nodi cyfres o nodau a chamau gweithredu ar draws holl gyfrifoldebau gweinidogol pob pwyllgor, ac mae gan bob Gweinidog rôl a chyfrifoldeb. Mae'n adlewyrchu ein gweledigaeth uchelgeisiol a radical ar gyfer Cymru lle nad oes dim goddefgarwch tuag at unrhyw fath o hiliaeth, gyda'r un nod o weld newidiadau mesuradwy a sylweddol i fywydau pobl o leiafrifoedd ethnig. Mae angen inni wneud hyn ym mhob rhan o fywyd, ac rwy’n glir mai dyma hanfod y gwaith hwn—gwneud gwahaniaeth mesuradwy mewn ffordd gyson a phenderfynol, fel nad yw ein haddewidion yn disgyn drwy beth sydd bob amser ac yn aml yn cael ei alw y 'bwlch gweithredu'.
Mae'r cynllun yn wahanol hefyd gan mai profiadau bywyd pobl o leiafrifoedd ethnig sydd wrth ei wraidd. Rydym ni wedi datblygu'r gwaith hwn mewn ffordd wahanol—rydym ni wedi ei gyd-gynllunio gyda'r bobl y mae'n effeithio arnynt, a bydd hyn yn parhau nes ei weithredu. Mae'n hanfodol cynnal yr ymddiriedaeth a'r ewyllys da a gafwyd drwy ddatblygu'r gwaith hwn, a bod hyn yn symud baich hiliaeth o'r dioddefwyr i bawb mewn cymdeithas. Mae angen i'r rhai ohonom mewn sectorau gwahanol, cynrychiolwyr etholedig, arwain, am fod gennym y pŵer a'r awdurdod i wneud y newidiadau systemig a sefydliadol sydd eu hangen ar gyfer dull gwrth-hiliol. Fel Llywodraeth, mae cyfrifoldeb arnom i sbarduno'r newid hwn.
Ac rwy'n arbennig o falch bod y cynllun yn seiliedig ar brofiad bywyd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae tua 2,000 o bobl ar draws Cymru wedi rhannu eu barn a'u profiad bywyd, sydd wedi bod yn bwerus ac, ar adegau, yn boenus i'r rhai dan sylw. Mae'n ddyletswydd arnom ni i beidio â gofyn i bobl o leiafrifoedd ethnig barhau i ailadrodd eu profiadau poenus, ond i weithredu ar beth rydym ni’n ei glywed, ac ni fyddai'r cynllun hwn wedi bod yn bosibl heb eu cyfraniadau hwy. Ond rwy'n ddiolchgar hefyd i gyd-gadeiryddion y grŵp llywio, yr Athro Emmanuel Ogbonna o Brifysgol Caerdydd a'r Ysgrifennydd Parhaol, y Fonesig Shan Morgan, a roddodd arweinyddiaeth heriol, feddylgar a chefnogol. Hoffwn ddiolch, hefyd, i'r 17 o fentoriaid cymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a weithiodd ochr yn ochr â swyddogion Llywodraeth Cymru, gan ddod â beth galwais i’n brofiad bywyd i goridorau Llywodraeth Cymru mewn ffordd ddychmygus a cholegol.
Rydym ni’n aml yn dweud y bydd gwneud yr un peth yn arwain at yr un peth. Rydym ni wedi ceisio gwneud pethau'n wahanol, ac mae wedi talu ar ei ganfed. Daeth ein sesiwn drylwyr ar bob maes polisi â phrofiadau academaidd a phrofiadau bywyd ynghyd i lywio ein gweithredoedd yn y dyfodol. Mewn un sesiwn drylwyr, roedd hi’n sioc clywed un aelod o Diverse Cymru yn dweud wrthym, ac rwy’n dyfynnu,
'Weithiau bydd car yn mynd heibio i chi. Maen nhw'n dweud "terrorist", neu "go back home" a phethau tebyg. Felly rydych chi'n dod i’r arfer â hynny. Am weddill eich oes rydych chi'n byw yma, rydych chi'n dod i’r arfer â hiliaeth.'
Daeth yr ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i ben ar 15 Gorffennaf. Cawsom ni nifer sylweddol o ymatebion, gyda mwy na 330 o unigolion a sefydliadau yn cyflwyno eu barn mewn amrywiaeth o fformatau. Rydym ni’n gweithio’n gyflym i ymateb i'r broses ymgynghori honno, ac mae'n amlwg bod angen i ni ganolbwyntio ar y prif feysydd newid a nodwyd, a galw am ffocws ar ganlyniadau clir a mesuradwy.
Dirprwy Lywydd, ym mis Awst roeddem ni i gyd yn bryderus iawn wrth inni weld yr argyfwng dyngarol oedd yn datblygu yn Affganistan, gan fod miloedd o bobl yn ffoi o'r Taliban, ac rwy'n falch o'r camau yng Nghymru sy'n dangos bod Cymru wir yn genedl noddfa, y camau y gwnaethom ni eu cymryd i groesawu mwy na 50 o deuluoedd. Rwy'n ddiolchgar bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi addo ei gefnogaeth i bolisi adleoli a chymorth Affgan, cynllun adsefydlu dinasyddion Affgan. Rydym ni yng Nghymru wedi dangos beth mae cydweithredu ac ymdrech ar y cyd yn gallu ei wneud i roi ymateb tosturiol i bobl sy'n ceisio noddfa.
Mae ymfudwyr wedi bod yn rhan annatod o'n gwlad ers amser maith, ac roeddwn i’n arbennig o falch o fod yn bresennol yn lansiad Black History Cymru 365, a drefnodd Race Council Cymru, a oedd yn cynnwys agoriad arddangosfa 'Windrush Cymru—Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes' yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni arddangosfa yma yn yr Oriel. Mae'n bwysig i Lywodraeth Cymru gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau cenhedlaeth Windrush a'u disgynyddion i'n gwlad dros y 73 o flynyddoedd diwethaf, a hefyd yr holl gymunedau mudol eraill a ddaeth cyn ac wedi hynny. Hefyd, gwnes i gyflwyniad yn seremoni wobrwyo menywod Cymru lleiafrifoedd ethnig y mis diwethaf, ac roedd cymaint o sgiliau a doniau menywod o leiafrifoedd ethnig wedi fy ysbrydoli. Mae gennym ni grŵp aruthrol o arweinwyr o bob sector, ar hyn o bryd a rhai sy'n dod i'r amlwg.
Yn olaf, byddwn i’n dweud bod ymladd hiliaeth yn galw am weithredu, nid geiriau. Heddiw, rwy’n galw ar bob arweinydd i gymryd rhan weithredol wrth ddod â phob anghydraddoldeb hiliol i ben a gyrru hiliaeth o wledydd, cymdeithasau, strwythurau a systemau. Mae’n rhaid inni gymryd camau ymarferol uniongyrchol i ysgogi newid. Ymunwch â ni yn y weledigaeth y gallwn ni fod yn genedl wrth-hiliol. Nawr yw’r amser i weithredu, fel y gallwn ni wneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru—ein pobl ni yng Nghymru. Diolch yn fawr.