Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 19 Hydref 2021.
Yng Nghymru a Lloegr, mae'r heddlu naw gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio eu grymoedd stop and search a bron wyth gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio tasers ar bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig nag ar bobl wyn. Mae canran y bobl ddu yng ngharchardai Cymru yn uwch na'r ganran yn y boblogaeth Gymreig. Ac yn ôl arolwg Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, mae canran uwch o bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn teimlo diffyg hyder yng ngallu'r heddlu i ddelio gyda chwynion yn deg. Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi dadlau y byddai datganoli grymoedd dros gyfiawnder a heddlua yn ein harfogi ni yma yng Nghymru i wneud y gwelliannau sydd eu hangen. Beth yw ateb y Llywodraeth?
Nawr, hoffwn fanylu ar un o isgymalau'r cynnig gan ei fod yn crisialu, dwi'n meddwl, ysbryd y cynnig yn ehangach. Mae cymal cyntaf y cynnig yn cefnogi,
'y frwydr fyd-eang i gael gwared ar hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu at sicrhau Cymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol'.
Fel cenedl fodern a gyfrannodd at fodolaeth yr ymerodraeth Brydeinig—a chlywsom dystiolaeth bwerus Altaf Hussain yn hyn o beth—nid yw'n syndod bod agweddau hiliol systemig yn parhau yn ein cymdeithas, ond mae'n werth nodi hefyd fod agweddau a ffynhonellau gwrth-hiliol o fewn cymdeithas a diwylliant Cymru, gweithiau Leonora Brito, Charlotte Williams, Hazel Carby, Glenn Jordan ac eraill, er enghraifft, yn cynnig adnoddau ar gyfer herio a thanseilio hiliaeth. Mae'r cymal yma hefyd yn cydnabod y cysylltiad sy'n bodoli rhwng hiliaeth strwythurol a systemig ar un llaw ac ideoleg hiliol ar y llaw arall. Mae ideoleg hiliol yn gallu bod yn amlwg ar adegau, ond gall fod yn fwy cynnil ar adegau eraill, wrth i wleidyddion, newyddiadurwyr ac eraill sydd â dylanwad ddefnyddio dog whistles, gan guddio eu gwir gymhelliant hiliol a gwthio ffiniau'r drafodaeth tuag at gasineb adweithiol.
Mae gennym oll gyfrifoldeb moesol i fod yn rhagweithiol yn ein gwrth-hiliaeth. Rhaid gweithredu'n fwy effeithiol i sicrhau nad oes gofod yn ein gwleidyddiaeth, yn ein cyfryngau, yn ein gweithleoedd nac yn ein sefydliadau ar gyfer ideoleg sy'n esgor ar hiliaeth ac anghydraddoldeb. Sut allwn ni sicrhau bod ein sefydliadau cenedlaethol yn adlewyrchu'r Gymru fodern yn ei holl amrywiaeth? Wel, wrth i ni fynd ati i ddiwygio'r Senedd er mwyn gwasanaethu pobl Cymru yn well, dylid ystyried o ddifrif, er enghraifft, y galwadau am gwotâu a mesurau eraill er mwyn cynyddu cynrychiolaeth grwpiau o bobl ddu ac o leiafrifoedd ethnig—