Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 19 Hydref 2021.
Ar ein taith tuag at statws cenedlaethol llawn, mae'n hanfodol ein bod ni'n wynebu'r hiliaeth yn ein gorffennol—ein bod ni'n pasio deddfwriaeth ac yn datblygu arferion diwylliannol, sefydliadol ac addysgol sy'n mynd i'r afael â hiliaeth yn y presennol, a'n bod yn clywed ac yn gwrando ar leisiau hanesyddol a chyfoes pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wrth i ni ymdrechu i feithrin traddodiadau gwrth-hiliaeth yn ein diwylliant, fel yr ymgorfforwyd mewn ffordd mor rymus yn y cerflun o Betty Campbell a gafodd ei ddadorchuddio fis diwethaf. Diolch.