Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 19 Hydref 2021.
Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog yn gyntaf am gyflwyno'r ddadl hynod bwysig hon. Ac rwy'n falch o fod yn gyd-lofnodwr y cynnig sy'n croesawu cyflwyno'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol er mwyn i ni allu creu Cymru wrth-hiliol. Er ei bod yn ymddangos yn y cyfryngau ar adegau ein bod yn fwy rhanedig nag erioed, mae'n galonogol clywed cynifer o gyfraniadau ar draws y Siambr y prynhawn yma, a'n bod ni i gyd gyda'n gilydd yn cefnogi'r cynllun gweithredu hwn.
Yn benodol, hoffwn i dynnu sylw'n fyr iawn at rai o'r meysydd yr wyf i'n teimlo y dylem ni fel gwleidyddion yma, ac fel aelodau o'n priod bleidiau, fod yn gwneud mwy er mwyn creu Cymru wrth-hiliol. Yn gyntaf, hoffwn i dynnu sylw at effaith pandemig y coronafeirws ar gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Cafwyd astudiaethau di-rif ac adroddiadau newyddion dros y 18 mis diwethaf sy'n awgrymu bod y pandemig wedi effeithio yn anghymesur ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn enwedig ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Er enghraifft, ledled y Deyrnas Unedig, mae 21 y cant o'r gweithlu gofal iechyd yn ddu, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, ac, yn rhyfeddol, roedd 63 y cant o weithwyr gofal iechyd a fu farw yn ddu, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig eu hunain. Mae hynny'n eithaf cywilyddus. Mae hyn yn dangos yn gwbl glir annhegwch sylweddol o ran diogelwch staff gofal iechyd, a dylem ni i gyd fod yn ymwybodol o hyn fel enghraifft drist o'r anghyfiawnderau sy'n dal i fodoli yn y gymdeithas heddiw.
Yn ail, rwy'n credu bod gwerth tynnu sylw at ymrwymiad y Llywodraeth i iaith a rhoi'r gorau i ddefnyddio'r ymadrodd 'BAME'. Er fy mod i'n cydnabod, o fewn fy mhlaid fy hun, fod gennym gryn ffordd i fynd i sicrhau bod pawb, ar bob lefel yn strwythur y blaid, yn deall goblygiadau'r ymadrodd hwn, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i ddefnyddio'r iaith gywir yn ein priod bleidiau i ddangos arweiniad ar y mater hwn.
Yn olaf, hoffwn i dynnu sylw, fel y nodwyd eisoes, at fater cynrychiolaeth yn y Senedd. Heb wneud y mater yn bêl-droed wleidyddol, rwy'n credu ei bod mor bwysig tynnu sylw at y swyddogaeth sydd gennym ni, unwaith eto, fel gwleidyddion ac fel aelodau o'n priod bleidiau, i fynd i'r afael â chynrychiolaeth decach. Mae'n rhaid i ni i gyd wneud mwy i sicrhau ein bod yn unioni'r anghydbwysedd yma yn y Siambr hon. Felly, gadewch i ni i gyd gymryd sylw o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud dim addewidion newydd, ond i gyflawni, cyflawni a chyflawni, a mynd â'r neges hon yn ôl i'n pleidiau gwleidyddol a sicrhau ein bod yn gwneud yr un peth i gynyddu cynrychiolaeth pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yma.
Felly, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ddod â hyn i'r Siambr, am gomisiynu'r adroddiad hwn, sy'n uchelgeisiol o ran ei gwmpas, ac edrychaf ymlaen at gefnogi'r Llywodraeth i geisio creu'r Gymru wrth-hiliol yr ydym ni i gyd yn ei dymuno. Diolch. Diolch yn fawr iawn.