– Senedd Cymru am 1:32 pm ar 19 Hydref 2021.
Diolch i bawb. Dwi nawr yn galw ar arweinwyr y pleidiau i gyfrannu ychydig eiriau o deyrnged i David Amess, gan ddechrau gyda'r Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Llywydd, diolch yn fawr. Cyffredinedd anfadwaith sydd fwyaf iasol yn aml. Dyma gynrychiolydd etholedig yn cyflawni'r ddyletswydd bob dydd fwyaf cyffredin, fel yr oedd wedi ei wneud ers bron i 38 mlynedd. Dydd Gwener cyffredin, eglwys a allai fod wedi bod yn unman, ciw o bobl yn chwilio am gymorth neu gyngor. Faint o gannoedd ar gannoedd o weithiau nad yw'r olygfa honno wedi ei hailadrodd gan gynifer ohonom ni yma yn y Senedd hon wrth i ni gyflawni ein cyfrifoldebau democrataidd?
Heddiw, anfonwn neges o dristwch ac o gydymdeimlad at ffrindiau a theulu Syr David Amess, ond, yn y loes a'r arswyd, anfonwn y neges hon hefyd: rydym ni'n parhau, yn ymwybodol o'n diogelwch ein hunain a diogelwch ein staff, wrth gwrs, ond byth yn barod i gefnu ar ein cyfrifoldeb dros ddiogelwch democratiaeth Cymru a'r pethau bob dydd hynny sy'n ei chadw hi'n iach ac yn ei chadw hi'n gyflawn, ac y mae ein hetholwyr yn disgwyl i ni helpu ei chynnal.
Paul Davies, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.
Diolch, Llywydd. Ar ran grŵp Senedd y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n anfon fy nghydymdeimlad o'r galon at deulu, ffrindiau a chydweithwyr Syr David Amess. Mae'r newyddion ofnadwy am ei farwolaeth wedi arwain at sioc, dicter a thristwch ymhlith cynifer ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'n amlwg bod Syr David yn uchel ei barch a bod pobl ar draws y rhaniad gwleidyddol yn hoff iawn ohono. Mae teyrngedau a negeseuon gan gymaint o bobl a gan wleidyddion o bob plaid wedi eu gwneud, sy'n dangos safon y dyn yr ydym ni wedi ei golli.
Cynrychiolodd Syr David bobl Southend West a, chyn hynny, Basildon yn ddiwyd am bron i 40 mlynedd, ac yn y cyfnod hwnnw helpodd i gynorthwyo miloedd o bobl a hyrwyddo cynifer o achosion pwysig. Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o'i angerdd at les anifeiliaid. Fel noddwr Sefydliad Lles Anifeiliaid y Ceidwadwyr, cefnogodd ymgyrchoedd fel y gwaharddiad ar hela llwynogod, profi ar anifeiliaid a ffermio cŵn bach ymysg materion eraill. Fodd bynnag, efallai mai'r achos yr oedd yn fwyaf adnabyddus amdano oedd ennill statws dinas i Southend, ei dref gartref annwyl, yr wyf i ar ddeall bod Ei Mawrhydi y Frenhines wedi ei gymeradwyo erbyn hyn. Yn wir, roedd yn amlwg yn AS etholaethol ymroddedig, a weithiodd yn galed i gynrychioli a chynorthwyo ei etholwyr, sy'n gwneud y cyfan yn fwy creulon byth iddo gael ei gymryd oddi arnom ni wrth gyflawni ei ddyletswyddau etholaethol. Ond yn anad dim, roedd yn ŵr a thad annwyl iawn i'w wraig a'i blant, ac yn ffrind a chydweithiwr i gynifer.
Yn dilyn marwolaeth drasig Syr David, mae Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle, wedi galw am roi terfyn ar y casineb sy'n ysgogi ymosodiadau yn erbyn gwleidyddion. Mae'n iawn i ddweud os oes unrhyw beth cadarnhaol i fod o ganlyniad i'r drasiedi ofnadwy ddiweddaraf hon, yr angen i newid ansawdd y drafodaeth wleidyddol yw hynny. Mae'n rhaid i'r sgwrs fod yn fwy caredig ac wedi ei seilio ar barch. Gwleidyddion, ymgyrchwyr a'r cyfryngau, mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae o ran hyrwyddo dadl a thrafodaeth iach, yn seiliedig ar syniadau a pharch. Ac eto, yn rhy aml, defnyddir iaith ymfflamychol, caiff sylwadau ymosodol ac atgas eu postio ar-lein, ac mae erthyglau a naratifau'r cyfryngau yn demoneiddio ffigyrau cyhoeddus ac yn eu bychanu. Mae'n rhaid i ni gamu ymlaen a hyrwyddo ffordd o weithio sydd wedi ei seilio ar barch at ein gilydd fel bodau dynol. Mae'n rhaid i ni dynnu sylw at gasineb pan fyddwn ni'n ei weld ac ymrwymo i ddadwenwyno ein tirwedd wleidyddol.
Roedd yr ymosodiad ar Syr David yn ymosodiad ar ein democratiaeth, ac felly, Llywydd, y deyrnged fwyaf y gallwn ni i gyd ei rhoi i Syr David yw parhau â'n dyletswyddau a chynrychioli ein hetholwyr hyd eithaf ein gallu. Ond am y tro, serch hynny, mae ein meddyliau gyda theulu Syr David a phawb a oedd yn ei adnabod ac yn ei garu. Boed iddo orffwys mewn hedd. Diolch.
Adam Price, ar ran Plaid Cymru.
Diolch, Llywydd. Mae marwolaeth Syr David Amess wedi bwrw'r cwmwl tywyllaf dros ein democratiaeth, ond gallwn ei gofio gyda hoffter a chynhesrwydd, oherwydd, ym mhobman yr aeth, daeth David â goleuni. Ef oedd yr union symbol o'r hyn y dylai seneddwr fod—dyn o egwyddor ddofn ond gyda'r anwyldeb ehangaf, argyhoeddiad cryf ond â chalon garedig, a fu farw fel y bu fyw, yn gwrando ar y bobl. Prin yw'r bobl yr wyf i erioed wedi cyfarfod â nhw yr oedd y term 'gwir anrhydeddus gyfaill' yn fwy addas ar eu cyfer.
Fe wnes i ddod i adnabod Syr David yn ystod fy nghyfnod yn San Steffan. Roedd yn Geidwadwr diffuant, ond roedd hefyd yn ymgorffori annibyniaeth meddwl a oedd yn codi uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol. Fe wnaeth fy nghefnogi ar bwynt o egwyddor yn sgil rhyfel Irac, gan lofnodi fy nghynnig uchelgyhuddiad—gweithred o gydweithredu trawsbleidiol a chyfeillgarwch eclectig a oedd yn nodweddiadol o agwedd David at fywyd ac at wleidyddiaeth. Pryd bynnag y dychwelais i San Steffan yn y blynyddoedd diwethaf, byddai bob amser yno gyda'r wên fwyaf gwresog honno, gan ddweud gyda'r caredigrwydd dengar a oedd yn nodweddiadol ohono faint yr oedd Tŷ'r Cyffredin yn dlotach hebof i. Mae'n fythol dlotach heb ddyn fel fe.
Mae'r ffaith bod rhywun mor ymroddedig i'w filltir sgwâr wedi ei ladd yn yr union gymuned yr oedd yn ei charu ac yn ei gwasanaethu yn gwneud digwyddiadau trasig ddydd Gwener diwethaf gymaint yn fwy poenus ac ingol. Wrth i ni gofio Syr David a dathlu ei fywyd, gadewch i ni hefyd aros yn driw i'n gwerthoedd cyffredin, fel cynrychiolwyr y bobl, yn union fel y gwnaeth David bob dydd o'i fywyd nodedig. Nid oes teyrngedau mwy na'r rhai a roddwyd gan bobl Southend West, a roddodd eu hymddiriedaeth ynddo—y rhai iddo eu helpu, y rhai iddo eu hyrwyddo, a'r rhai yr ymladdodd eu brwydrau. Gadewch iddyn nhw fod yn ffynhonnell o gysur i lenwi'r bwlch. Ond nid oes dim mwy o golled na'r hyn a deimlir gan ei deulu. Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda nhw, ac, ar ran Plaid Cymru, anfonaf ein cydymdeimlad mwyaf diffuant ar yr adeg anhygoel o anodd hon.
Jane Dodds, ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch yn fawr am y cyfle i ddweud ychydig iawn o eiriau ar yr adeg hon. Er nad oeddwn i'n adnabod Syr David yn bersonol, mae'n amlwg i mi a phawb pa mor angerddol yr oedd dros yr hyn yr oedd yn ei wneud—dros dlodi tanwydd, lles anifeiliaid, cynrychioli ei etholwyr ac, yn wir, Southend. Cafodd Syr David ei ladd wrth gynnig cymorth i'w etholwyr—y swydd bwysicaf sydd gennym ni fel gwleidyddion. Un peth rwyf i wedi ei glywed yn fwy na dim byd arall dros y penwythnos yw bod Syr David bob amser yn gwrtais wrth gymryd rhan mewn dadl wleidyddol, hyd yn oed gyda'r rhai yr oedd yn anghytuno'n llwyr â nhw. Gallwn ni i gyd ddysgu bod yn garedig ac yn wresog, fel Syr David, hyd yn oed pan fyddwn ni'n anghytuno. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i bawb.