Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 19 Hydref 2021.
Wel, am y rhesymau niferus yr wyf i wedi eu hegluro o'r blaen, Llywydd. Cefais i gyfle ddoe i gyfarfod â Phrif Weinidog y DU. Roedd yn gyfarfod eang, ond roedd gen i ddau fater yn arbennig yr oeddwn i eisiau gwneud yn siŵr fy mod i'n eu codi yn uniongyrchol gyda Phrif Weinidog y DU yn y cyfarfod hwnnw. Un oedd mater diogelwch tomenni glo a'i bwysigrwydd yma yng Nghymru, a'r llall oedd mynd ar drywydd y cyfarfod yr oeddwn i wedi ei gynnal gyda theuluoedd mewn profedigaeth yma yng Nghymru a chyfleu rhai o'r pwyntiau y gwnaethon nhw i mi i Brif Weinidog y DU. A'r hyn a ofynnais i Brif Weinidog y DU oedd, i Gymru fod yn rhan o ymchwiliad y DU y mae wedi ei gynnig ac yn y ffordd y mae wedi gofyn i ni gymryd rhan, roedd angen i mi allu rhoi sicrwydd i bobl eraill na fyddai Cymru, yn y term a ddefnyddir weithiau, yn droednodyn mewn ymchwiliad ar gyfer y DU, y byddai'r ymchwiliad yn rhoi pwyslais penodol ar brofiad Cymru, y byddai'n mynd i'r afael â'i ymchwiliadau mewn ffordd a oedd yn rhoi digon o gyfle i bobl yng Nghymru gymryd rhan uniongyrchol ynddo, ac, wrth adrodd, y byddai deunydd yn yr adroddiad yn canolbwyntio yn uniongyrchol ar y ffordd yr oedd penderfyniadau wedi eu gwneud yma yng Nghymru. Rhoddodd Prif Weinidog y DU atebion cadarnhaol i hynny i gyd, gan gydnabod y pwyntiau a wnaed ac ailddatgan ei ddymuniad y byddai dimensiwn Cymru, yn ei eiriau ef, o brofiad y coronafeirws, yn cael ei ymchwilio yn briodol ac yna'n cael ei adrodd o fewn y cyd-destun ehangach, na allwch chi wneud synnwyr priodol o'r hyn a ddigwyddodd yng Nghymru hebddo na rhoi'r atebion y bydd pobl, yn gwbl briodol, yn disgwyl i'r ymchwiliad eu darparu.