Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 19 Hydref 2021.
Diolch yn fawr am y cwestiwn, Llywydd. Roedd diwygiadau yn 2019 wedi codeiddio cyfres o safonau proffesiynol cenedlaethol ar gyfer cynorthwywyr dysgu. Roedd hyn yn ei gwneud yn orfodol iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Cyrff llywodraethwyr ac awdurdodau addysg lleol sy’n cyflawni cyfrifoldeb y cyflogwr ar gyfer y rhan werthfawr ac annatod hon o weithlu’r ysgol.