Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 19 Hydref 2021.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, heddiw, mae eich Llywodraeth wedi cyhoeddi cyd-gadeiryddion y comisiwn annibynnol a fydd yn bwrw ymlaen â'r sgwrs genedlaethol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Gyda'r Athro McAllister a Dr Williams, rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn bod gennym ni ddau unigolyn gwefreiddiol i arwain y gwaith hwn. Ymysg ei amcanion, bydd y comisiwn yn, ac rwy'n dyfynnu,
'Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru'.
A wnewch chi gadarnhau y bydd hynny yn cynnwys, am y tro cyntaf erioed yn achos corff sefydledig swyddogol, waith difrifol a sylweddol ar annibyniaeth i Gymru?