Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 19 Hydref 2021.
Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Mae miloedd o anifeiliaid gwyllt a domestig yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yng Nghymru bob blwyddyn oherwydd y defnydd o faglau. Mae'r RSPCA yn adrodd bod y defnydd o faglau yn dal i fod yn gyffredin, gall cynifer â 51,000 o faglau llwynogod fod yn weithredol yng Nghymru ar unrhyw un adeg, ac mae diffyg cydymffurfio â'r cod. A gaf i annog y Prif Weinidog i gyflwyno'r darn hwn o ddeddfwriaeth fel mater o frys? Oherwydd po hiraf y byddwn ni'n aros, y mwyaf o anifeiliaid fydd naill ai'n cael eu lladd neu eu hanafu.